Ar 19 Rhagfyr 2018, ymunodd Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth ac aelodau o Glwb Ieuenctid Penparcau â Bwyd Dros Ben Aber ag Ysgol Llwyn yr Eos i gynnal pryd ‘talu fel y mynnwch’ yn Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau.

Mae Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth ac aelodau o Glwb Ieuenctid Penparcau yn cael eu harwain gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan bobl ifanc, Bwyd Dros Ben Aber ag Ysgol Llwyn yr Oes. Codwyd dros £60 i elusen ac roedd yn gyfle i bobl ifanc a’r gymuned leol ddysgu am wastraff bwyd ac ailddosbarthu bwyd a gasglwyd o archfarchnadoedd lleol. Cafodd bobl ifanc y cyfle i greu bwydlen, i ddysgu am alergeddau bwyd ac i ddysgu amrywiaeth o sgiliau newydd drwy goginio i’w teuluoedd, ffrindiau a’r gymuned leol.

Dywedodd Matthew Jennings, Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion, “Mae Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth yn griw o bobl ifanc o Glwb Ieuenctid Penparcau sy’n anelu i ddatblygu prosiectau sy’n ymgysylltu â’r gymuned a chynnal gweithgareddau codi arian yn ardal Penparcau ac Aberystwyth. Cafwyd amser gwych yn gweithio gyda Bwyd Dros Ben Aber, a chrëwyd tri chyri gwahanol a phwdin gan ddefnyddio bwyd gwarged a fyddai fel arall wedi mynd i wastraff. Hoffem ddiolch i Fwyd Dros Ben Aber am y cyfle i goginio gyda nhw ac i Ysgol Llwyn yr Eos am ein cefnogi i gynnal y digwyddiad, ac i ddefnyddio eu cyfleusterau.”

Dywedodd Heather McClure o Fwyd Dros Ben Aber, “Roedd hi’n noson braf gyda’r tîm o Lysgenhadon Aberystwyth wrth iddynt goginio bwyd a fyddai fel arall wedi mynd yn wastraff. Roedd yn wych gweld eu hawch i godi arian tuag at Gronfa Swnami Indonesia. Roedd y brwdfrydedd i dorri llysiau ac ychwanegu gwahanol sbeisys yn bleser i weld, ac roedd y bobl ifanc wedi darparu gwasanaeth hyfryd a chroesawgar i bawb a fynychodd am y pryd cymunedol. Diolch a da iawn i’r Tîm Llysgenhadon Ieuenctid!"

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn wasanaeth dynodedig i bobl ifanc rhwng 11-25 oed yng Ngheredigion. Mae’n wasanaeth sy’n ymrwymo i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol pobl ifanc drwy gymorth arbenigol a darpariaeth mynediad agored. Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i’w tudalen Facebook neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

Mae Bwyd Dros Ben Aber yn sefydliad sy’n ceisio lleihau gwastraff bwyd yn Aberystwyth. Mae Bwyd Dros Ben Aber yn casglu bwyd y mae busnesau lleol yn ei daflu i ffwrdd a’i ail ddosbarthu ymhlith y gymuned. I ddysgu mwy am waith Bwyd Dros Ben Aber, ewch i'w tudalennau Facebook neu Twitter @AberFoodSurplus neu edrychwch ar eu gwefan; https://www.aberfoodsurplus.co.uk/.

10/01/2019