Ar ddydd Sadwrn 15 Chwefror, daeth dros hanner cant o bobl ifanc de Ceredigion at ei gilydd yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog ar gyfer diwrnod ‘Ti’n Gêm?’. Gêm gymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg a drefnwyd gan Cered: Menter Iaith Ceredigion gyda chydweithrediad yr Urdd a Tatl Gaming.

Bwriad y diwrnod oedd rhoi cyfle i bobl ifanc ddod at ei gilydd i gymdeithasu a mwynhau amrywiol weithgareddau gan gynnwys gemau cyfrifiadurol a hynny oll trwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy gynnal diwrnod o’r math y gobaith yw bod plant yn sylweddoli eu bod yn medru defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd.

Yn ystod y dydd bu cyfle i chwarae gemau cyfrifiadurol Splatoon, FIFA a Minecraft yn ogystal â chymryd rhan mewn twrnamaint Mario Kart 8 cyn profi cyffro saethyddiaeth, y wal ddringo a’r cwrs rhaffau uchel.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered: “Bu’r diwrnod yn llwyddiannus tu hwnt gyda phawb i weld yn mwynhau. Roedd ymateb y plant i’r gweithgareddau yn ffantastig a’r hyn oedd yn allweddol oedd eu bod nhw’n mwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg. Y gobaith yw cynnal diwrnodau tebyg yn y dyfodol. Diolch i Tatl Gaming am gydweithio gyda ni a hefyd i’r Urdd am drefnu cyfres o ddigwyddiadau ymarferol i’r plant.”

Mae Cered yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ar draws y Sir fel bod pobl o bob oedran yn cael y cyfle i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth am weithgareddau yn eich ardal chi cysylltwch â Cered ar 01545 572350 neu cered@ceredigion.gov.uk.

17/02/2020