Ar 15 Mawrth, fe wnaeth Clwb Coginio Ysgol Henry Richard gynnal sêl gacennau yn yr ysgol a chodwyd dros £300 i ‘Comic Relief’. Mae’r clwb coginio yn cael ei arwain gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion mewn partneriaeth ag Ysgol Henry Richard, Tregaron. Coginiodd y clwb pob math o gacennau a danteithion melys.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu ac arwain gan bobl ifanc, gyda chymorth eu Gweithwraig Ieuenctid, Rebeca Davies. Dywedodd Rebeca, “Mae aelodau o Glwb Coginio Ysgol Henry Richard wedi gweithio’n hynod o galed i bobi cannoedd o gacennau a chynnal stondin gacennau yn yr ysgol, a llwyddon i godi swm anhygoel i gefnogi ymgyrch ‘Comic Relief’. Ar ran Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, hoffem ymestyn diolch i nifer o siopau lleol a wnaeth roddi’n hael i’r digwyddiad er mwyn cefnogi achos da; sef Spar Tregaron, Caron Groceries, Caffi Hafan, Riverbank Café a Morrisons Aberystwyth. Hefyd, fe wnaeth Glwb Ieuenctid Aberaeron ac Aberteifi gefnogi’r digwyddiad drwy bobi a rhoddi cacennau bach.”

Dywedodd aelodau o Glwb Coginio Ysgol Henry Richard, “Rydym yn falch iawn gyda llwyddiant ein stondin gacennau. Hoffem ddiolch i bawb a wnaeth brynu cacen, a gyda’n gilydd fe wnaethom godi dros £300 i Comic Relief!”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Wasanaeth dynodedig i bobl ifanc rhwng 11-25 oed yng Ngheredigion. Mae’n wasanaeth sy’n ymrwymo i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol pobl ifanc drwy gymorth arbenigol a darpariaeth mynediad agored. Mae darpariaeth yn cynnwys Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion, Gwaith Ieuenctid Allgymorth a Chlybiau Ieuenctid.

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i’w tudalen Facebook neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar 01545572352 neu youth@ceredigion.gov.uk.

27/03/2019