Ar 10 Rhagfyr 2019, cynhaliodd pobl ifanc o Glwb Coginio Ysgol Henry Richard stondin Ffair Nadolig yn gwerthu cacennau a danteithion wedi eu rhoi gan y gymuned leol i godi arian ar gyfer pobl ifanc sy'n derbyn gofal yn Ward Angharad, Ysbyty Bronglais a Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru. Arweiniwyd y clwb gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion a chodwyd dros £400 at yr elusennau.

Dysgodd pobl ifanc sut i wneud a chynhyrchu gwahanol gynhyrchion, gwerthu a chodi arian at elusen. Rhoddodd hyn gyfle i'r bobl ifanc i gael ymdeimlad o gyflawniad trwy roi i eraill.

Dywedodd Ruby Cook o Glwb Coginio Ysgol Henry Richard, “Mae ein Clwb Coginio yn cynnwys pobl ifanc o Ysgol Henry Richard sy'n mynychu'r clwb coginio ar ôl ysgol. Mae'r clwb yn canolbwyntio ar goginio a dysgu sgiliau bywyd newydd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymdeithasu â'u ffrindiau. Cawsom amser gwych yn gweithio ar y prosiect hwn, lle gwnaethom bobi cacennau a chael hwyl yn y Ffair Nadolig yn eu gwerthu. Hoffem ddiolch i'r busnesau lleol a roddodd hefyd i'n stondin. Gyda'ch cefnogaeth chi roeddem yn gallu codi mwy o arian a rhoi anrhegion i fwy o bobl ifanc y Nadolig hwn.”

Dywedodd Mrs Ffion Davies, Ysgol Henry Richard, “Roedd hi’n noson hyfryd gweld aelodau’r Clwb Coginio yn cael hwyl wrth wneud a gwerthu cacennau at achosion teilwng. Roedd y brwdfrydedd a ddangosodd y bobl ifanc wrth roi o’u hamser er mwyn helpu eraill ar beth all fod yn amser bregus o’r flwyddyn i rai yn ysbrydoledig. Diolch yn fawr a da iawn i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion ac aelodau'r Clwb Coginio.”

Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Rwyf am longyfarch y Clwb Coginio am eu gwaith caled a'u llwyddiant gwych. Rwyf wrth fy modd eu bod nid yn unig wedi codi swm da ar gyfer elusen, ond eu bod wedi cael hwyl a dysgu ar yr un pryd. Rwy'n ddiolchgar i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion am eu gwaith da parhaus a'u cefnogaeth i bobl ifanc yn y sir.”

Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yw'r Gwasanaeth dynodedig ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed yng Ngheredigion, sy'n ymroddedig i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol pobl ifanc trwy gefnogaeth arbenigol a darpariaeth mynediad agored. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys Gwaith Ieuenctid yn yr Ysgol, Gwaith Ieuenctid Allgymorth a Chlybiau Ieuenctid. I gael mwy o wybodaeth neu i ddarganfod pa gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch draw i'w tudalennau Facebook, Instagram a Twitter trwy @GICeredigionYS.

15/01/2020