Yn ddiweddar, cyflwynodd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion fainc wedi'i saernïo â llaw i Gymuned Tregaron, fel rhan o brosiect cymunedol a arweinir gan bobl ifanc. Mae'r grŵp o bobl ifanc 16-25 oed yn rhan o 'Ysbrydoli', sef Rhaglen Allgymorth y Gwasanaeth Ieuenctid.

Mae'r grŵp yn cynnwys pobl ifanc o bob rhan o Geredigion, sy’n gwirfoddoli o leiaf un diwrnod yr wythnos. Maent yn cael y cyfle i ddatblygu eu hunain drwy weithgareddau wedi'u trefnu, gweithdai meithrin sgiliau, digwyddiadau gwirfoddoli a phrofiadau blasu.

Mae Gwen Evans yn Weithiwr Ieuenctid Allgymorth gyda Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Dywedodd, “Penderfynon ni greu'r rhaglen ‘Ysbrydoli' er mwyn rhoi’r ymdeimlad o hunaniaeth a pherchnogaeth i'r bobl ifanc. Rydym yn cwrdd bob wythnos mewn gwahanol rannau o Geredigion ac yn darparu cymorth gyda chludiant. Mae'r grŵp yn mwynhau dod at ei gilydd i gymdeithasu a rhoi cynnig ar wahanol gyrsiau a gweithgareddau. Mae’r gweithgareddau yma’n datblygu’u hyder a'u hunan-barch.”

Fe ddaeth y prosiect yma, sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc, at ei gilydd, yn dilyn derbyn grant o £500 gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion. Penderfynodd y bobl ifanc ddefnyddio’r arian i gael cyrsiau blasu gwaith coed gan Hyfforddiant Ceredigion Training, gan eu galluogi i ddylunio, cynllunio ac adeiladu'r fainc. Yna, penderfynon nhw i gyflwyno’r fainc i Gyngor Tref Tregaron, er mwyn iddyn nhw ei osod mewn man lle gall y gymuned ei fwynhau.

Elen James yw’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Diwylliant a Dysgu Gydol Oes. Dywedodd, "Mae'n bleser gweld y bobl ifanc hyn yn parhau i ymdrechu a datblygu i fod yn aelodau gwerthfawr o'r gymuned. Mae rhaid clodfori’r ymrwymiad a'r ymdrech maent wedi dangos bob wythnos trwy feddwl am eraill a rhoi rhywbeth yn ôl i'w cymuned. Hoffwn hefyd longyfarch cyfraniad y Gwasanaeth Ieuenctid o ran darparu'r cyfleoedd i’r bobl ifanc ffynnu a datblygu. Mae'r cymorth hwn yn hollbwysig er mwyn rhoi cyfle iddynt fynegi eu hunain a theimlo'n rhan o'u cymuned."

I ddathlu eu llwyddiannau, cynhaliwyd seremoni i ddadorchuddio’r fainc yng Nghanolfan Hamdden Caron. Trosglwyddwyd y fainc i Gyngor Tref Tregaron, gyda chefnogaeth gan swyddogion Cyngor Sir Ceredigion a Chynghorwyr.

I gael mwy o wybodaeth am waith y Gwasanaeth Ieuenctid a chyfleoedd i bobl ifanc, ffoniwch 01545 572352 neu e-bostiwch youth@ceredigion.gov.uk.

Cofiwch ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol drwy chwilio am @GICeredigionYS ac ewch i'n gwefan www.giceredigionys.co.uk.

30/05/2019