Yn dilyn lansiad cystadleuaeth ddylunio ddiweddar yn galw ar blant a phobl ifanc i rannu eu syniadau am y gofod, crëwyd murlun lliwgar ar 24 Mawrth 2022 ar danffordd Pen-y-Bont ym Mhenparcau.

Cafodd y dyluniad ei greu gan berson ifanc lleol, a’i beintio gan yr artist graffiti proffesiynol, Lloyd the Graffiti, gydag ychydig o help gan ddisgyblion Ysgol Plascrug ac Ysgol Penglais.

Dewisodd cyngor ysgol lleol y dyluniad buddugol a gafodd ei greu gan Freya Watkins (12), Ysgol Gyfun Penweddig. Yn ail roedd Ida Beckmann (15), Ysgol Penglais ac amrywiaeth o ddyluniadau a gyflwynwyd fel grŵp gan Ysgol Plascrug (Alice, Seth, Lucy, Nancy, Olivia, Lacey, Jack a Sam) yn drydydd yn y gystadleuaeth. Bydd Freya, Ida ac Ysgol Plascrug yn fuan yn derbyn eu gwobrau sy’n cynnwys deunydd celf a thaleb.

Cafodd disgyblion Ysgol Plascrug ac Uned Cyfeirio Disgyblion Ceredigion hefyd gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gyda Lloyd the Graffiti, gan greu eu cynfasau a’u byrddau graffiti eu hunain.

Dywedodd Paul Stubbs, Gweithiwr Ieuenctid, “Diolch i’r holl blant a phobl ifanc a rannodd eu syniadau fel rhan o’r gystadleuaeth. Llongyfarchiadau i Freya ar greu’r dyluniad buddugol. Roedd y panel o bobl ifanc yn teimlo bod dyluniad lliwgar Freya yn cynrychioli’r ardal leol yn dda. Mae dyluniad Freya wedi’i drosglwyddo i ofod yn y danffordd, i bawb ei fwynhau am flynyddoedd i ddod. Diolch i bobl ifanc Ysgol Penglais ac Ysgol Plascrug am helpu Lloyd the Graffiti gyda’r paentio. Hoffem hefyd ddiolch am garedigrwydd CB Environment gan eu bod wedi cyfrannu’r paent i ni eu ddefnyddio.”

 

01/04/2022