Pleidleisiodd 2,160 o bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed (37% o’r boblogaeth) ar draws Ceredigion yn y balot, Gwneud Eich Marc, eleni, sy’n golygu mai Ceredigion yw’r unig Awdurdod yng Nghymru i gyrraedd yr 20 ardal uchaf yn y DU (yn seiliedig ar ganran y nifer a bleidleisiodd).

Ym mis Chwefror 2022, cymerodd Ceredigion ran yn y balot Gwneud Eich Marc. Mae Gwnewch Eich Marc yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11-18 oed ym Mhrydain gael dweud eu dweud ar y materion mwyaf sy'n wynebu pobl ifanc. Mae'r bleidlais flynyddol, sydd wedi bod yn rhedeg ers dros 10 mlynedd, yn canolbwyntio ar faterion megis iechyd ac addysg.

Iechyd a Lles oedd y pwnc a bleidleisiwyd arno fwyaf gan bobl ifanc Ceredigion gyda 483 o bleidleisiau, gyda Swyddi, Arian, Cartrefi a Chyfleoedd yn dilyn yn agos gyda 451 o bleidleisiau. Derbyniodd yr Amgylchedd 405 o bleidleisiau ac Addysg a Dysgu 371 o bleidleisiau. Materion eraill y pleidleisiwyd arnynt hefyd yw Tlodi, Adferiad Covid-19 ac Ein Hawliau a Democratiaeth.

Bydd digwyddiad blynyddol Cyngor Ieuenctid Ceredigion, i’w gynnal ddiweddarach eleni, yn canolbwyntio ar nifer o’r pynciau pwysig hyn, lle bydd pobl ifanc yn codi cwestiynau gyda phanel o siaradwyr gwadd.

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae’n hynod o bwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i rannu eu barn, yn benodol ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r Ymgyrch Gwneud eich Marc yn gyfle gwerthfawr i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ar draws Ceredigion gael dylanwad ar y materion sy’n cael eu trafod fel rhan o’r rhaglen UKYP, ac rydym yn falch bod cynifer o bobl ifanc wedi gallu cymryd rhan eleni. Hoffem ddiolch i’n tim o Weithwyr Ieuenctid, Ysgolion Uwchradd a Cholegau Addysg Bellach ar draws y Sir am ein cefnogi i allu cynnal y balot eto eleni.”

Am fwy o wybodaeth neu i ddarllen adroddiad Gwneud eich Mark 2022 gan y British Youth Council eleni, ewch chi: https://2u6szgq3e9x2hmfuy16guf8q-wpengine.netdna-ssl.com/wp-content/uploads/2022/03/UK-Youth-Parliament-Make-Your-Mark-Results-Report-2022.pdf

 

 

22/03/2022