Mae Hydref 10, 2020 yn Ddiwrnod Digartrefedd y Byd, sy'n ddiwrnod rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth ac annog cymunedau lleol i helpu'r rhai sy'n ddigartref.

Ym mis Chwefror 2020, cychwynnodd pobl ifanc o Glwb Ieuenctid Penparcau, sy'n ffurfio’r Grŵp Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth, ar brosiect newydd mewn partneriaeth ag Arad Goch i greu ffilm fer mewn ymgais i addysgu a chodi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Ariannwyd y prosiect gan Gynllun Grant dan Arweiniad Ieuenctid, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO).

Ymchwiliodd y grŵp y pwnc, trafodwyd gyda sefydliadau lleol, creuwyd sgript, buom yn ffilmio golygfeydd o amgylch tref Aberystwyth, a golygu a gwerthuso pob cam o'r prosiect. Cynhyrchwyd y ffilm gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc o dan gefnogaeth a goruchwyliaeth Cwmni Theatr lleol, Arad Goch. Cefnogwyd y prosiect hefyd gan ddisgyblion drama o Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a gymerodd ran yn y cynhyrchiad. Mae'r ffilm fer yn dilyn taith ingol person ifanc sy'n wynebu teulu'n chwalu ac yn dioddef digartref wedi hynny, cyn dod o hyd i gefnogaeth gyda sefydliad lleol.

Dywed Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth, “Rydym yn teimlo bod hwn yn fater pwysig nid yn unig i bobl yn Aberystwyth ond ar draws Cymru. Roeddem am helpu i fynd i'r afael â’r mater o digartrefedd, ond nid yn unig digartrefedd, y stigma sy'n amgylchynu bod yn ddigartref. Rydyn ni'n teimlo bod angen codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd, ble i gael cefnogaeth ac y ffaith y gallai ddigwydd i unrhyw un.”

Dywed Carwyn Blayney cyfarwyddwr y ffilm, “Braint oedd cael gweithio ar y prosiect hwn, gyda chriw arbennig o weithwyr ieuenctid, pobl ifanc hynod dalentog, ac ar sail stori gwir un person dewr iawn;  diolch o galon iddo am rannu ei stori, ac am adael i ni ei ddefnyddio fel sail ar gyfer y ffilm fer hon. Fe wnaeth pob un o’r pobl ifanc – y criw cynhyrchu a’r actorion – weithio’n galed ar y ffilm nol ym mis Chwefror, a gallwch chi fod yn bles iawn gyda’r ffordd ry’ chi wedi trafod mater sensitif a phwysig yn y ffilm.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth, “Llongyfarchiadau gwresgog i bawb o’r criw am fynd ati i greu ffilm trawiadol a chyfoes i amlygu problem difrifol yn yr amser sydd ohoni. Diolch i bawb am gydweithio mor effeithiol ar brosiect sy’n berthnasol ac o ddefnydd i bawb, ledled Cymru. Mae’n dangos i’n plant a phobl ifanc y gall digartrefedd ddigwydd yn hollol annisgwyl, ond bod cefnogaeth cadarn ar gael i hwyluso dyfodol positif.”

Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, mae’r lansiad gwreiddiol ar gyfer y ffilm wedi’i ohirio, ond bydd lansiad rhithiol yn digwydd ym mis Tachwedd, lle bydd y ffilm yn cael ei lansio ac yna ar gael i’w gweld.

Hoffai Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ddiolch i Lysgenhadon Cymunedol Aberystwyth, Cwmni Theatr Arad Goch, disgyblion o Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, CAVO a Thŷ Curig, Aberystwyth.

Am rhagor o wybodaeth am waith y Gwasanaeth Ieuenctid, ewch i’w tudalennau Facebook, Twitter neu Instagram @GICeredigionYS neu ewch i’r wefan www.giceredigionys.co.uk.

Am fwy o wybodaeth am waith Cwmni Theatr Aradh Goch, ewch i’w gwefan https://aradgoch.cymru/.

 

09/10/2020