Ym mis Chwefror 2020, cwblhaodd pobl ifanc o Glwb Ieuenctid Penparcau, sy'n ffurfio’r Grŵp Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth, prosiect newydd mewn partneriaeth ag Arad Goch. Bu Arad Goch a Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cydweithio i greu ffilm fer mewn ymgais i addysgu a chodi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Ariannwyd y prosiect gan Gynllun Grant dan Arweiniad Ieuenctid, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Ymchwiliodd y grŵp y pwnc, trafodwyd gyda sefydliadau lleol, creuwyd sgript, buom yn ffilmio golygfeydd o amgylch tref Aberystwyth, a golygu a gwerthuso pob cam o'r prosiect. Cynhyrchwyd y ffilm gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc o dan gefnogaeth a goruchwyliaeth Cwmni Theatr lleol, Arad Goch. Cefnogwyd y prosiect hefyd gan ddisgyblion drama o Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a gymerodd ran yn y cynhyrchiad. Mae'r ffilm fer yn dilyn taith unigol person ifanc sy'n wynebu teulu'n chwalu ac yn dioddef digartref wedi hynny, cyn dod o hyd i gefnogaeth gyda sefydliad lleol.

Dywed Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth: “Rydym yn teimlo bod hwn yn fater pwysig nid yn unig i bobl yn Aberystwyth ond ar draws Cymru. Roeddem am helpu i fynd i'r afael â’r mater o digartrefedd, ond nid yn unig digartrefedd, y stigma sy'n amgylchynu bod yn ddigartref. Rydyn ni'n teimlo bod angen codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd, ble i gael cefnogaeth ac y ffaith y gallai ddigwydd i unrhyw un. Teimlwn y gallai'r ffilm hon helpu i ddechrau'r drafodaeth i'r hyn y gellir yn aml fod yn bwnc sensitif iawn.”

Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, gohiriwyd ac aildrefnwyd y lansiad gwreiddiol i ddigwydd yn rhithiol. Ymunodd dros 90 o bobl â'r lansiad a gynhaliwyd ddydd Mawrth 03 Tachwedd dros Zoom. Cafodd y gwesteion gyflwyniad gan bobl ifanc, golwg o'r ffilm a chawsant gyfle i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.

Dywed Carwyn Blayney cyfarwyddwr y ffilm: “Braint oedd cael gweithio ar y prosiect hwn, gyda chriw arbennig o weithwyr ieuenctid, pobl ifanc hynod dalentog, ac ar sail stori gwir un person dewr iawn;  diolch o galon iddo am rannu ei stori, ac am adael i ni ei ddefnyddio fel sail ar gyfer y ffilm fer hon. Fe wnaeth pob un o’r pobl ifanc – y criw cynhyrchu a’r actorion – weithio’n galed ar y ffilm, a gallwch chi fod yn bles iawn gyda’r ffordd ry’ chi wedi trafod mater sensitif a phwysig yn y ffilm.”

Yn dilyn y lansiad, dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Negeseuon cryf gall pawb eu deall. Cynhyrchiad gwych.” Dywedodd aelod arall o’r gynulleidfa: “Ffantastig! Dysgais lawer o'r noson hon ac mae'r bobl ifanc a phawb sy'n cymryd rhan wedi gwneud gwaith gwych iawn!”

Mae modd gwylio’r ffilm ar; https://www.amam.cymru/aradgoch/3986.

Hoffai Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ddiolch i Lysgenhadon Cymunedol Aberystwyth, Cwmni Theatr Arad Goch, disgyblion o Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, CAVO a Thŷ Curig, Aberystwyth. Dymuna’r Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion hefyd ymestyn diolch i Arad Goch â’r tîm am eu gwaith yn trefnu lansiad llwyddiannus i arddangos y ffilm.

Am rhagor o wybodaeth am waith y Gwasanaeth Ieuenctid, ewch i’w tudalennau Facebook, Twitter neu Instagram @GICeredigionYS neu ewch i’r wefan www.giceredigionys.co.uk.

Am fwy o wybodaeth am waith Cwmni Theatr Aradh Goch, ewch i’w gwefan https://aradgoch.cymru/. Ar gyfer ymholiadau ynghylch defnyddio'r ffilm mewn lleoliadau eraill, cysylltwch ag Arad Goch ar 01970 617998 neu post@aradgoch.org i drafod.

05/11/2020