Mae pleidlais Gwneud eich Marc 2022 nawr ar agor ac yn cau ar 28 Chwefror 2022. Mae ymgyrch Gwneud eich Marc yn gyfle i bobl ifanc 11-18 oed ledled y Deyrnas Unedig fynegi eu barn drwy ddewis pa bynciau cenedlaethol a lleol sydd yn effeithio fwyaf arnyn nhw yn eu bywydau bob dydd.

Bydd y materion y pleidleisir arnynt fel y rhai pwysicaf yn cael eu trafod gan Aelodau Senedd Ieuenctid Prydain. Byddant yn ymgyrchu i ddylanwadu ar Senedd y Deyrnas Unedig a'u cynrychiolwyr lleol, gan sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn gwrando ar farn pobl ifanc.

Dyma gyfle i bobl ifanc sydd yn byw yng Ngheredigion i ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a all wneud gwahaniaeth go iawn ynghylch y materion sydd o bwys iddyn nhw.

Mae Gwneud eich Marc yn ymgyrch Cyngor Ieuenctid Prydain, a gefnogir gan Senedd y Deyrnas Unedig, Plant yng Nghymru a Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd Poppy Evans, ein Aelod Seneddol Ieuenctid Prydain dros Geredigion ac yn cynrychioli Ysgol Uwchradd Aberaeron: “Mae ymgyrch ‘Gwneud eich Marc’ yn gyfle gwych i ni fel pobl ifanc Ceredigion leisio ein barn a chodi ymwybyddiaeth o bynciau sy’n bwysig i ni ac sy’n effeithio ar ein bywydau.”

Dywedodd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth, a Phencampwr Plant a Phobl Ifanc Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’n hanfodol ein bod yn cael arwydd clir o’r materion sy’n bwysig i’n bobl ifanc – yn enwedig eleni, gyda’r holl bwysau ychwanegol oherwydd COVID-19. Mae hyn yn rhoi arweiniad i ni fel Awdurdod ar feysydd y gallwn ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol.”

Bydd Gweithwyr Ieuenctid ar draws y Sir yn cefnogi ffyrdd y gall bobl ifanc bleidleisio.

I ddysgu mwy am ymgyrch Gwneud eich Marc, ewch i: British Youth Council | Make Your Mark - UK Youth Parliament (byc.org.uk)

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i’w tudalen Facebook, Instagram neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

07/02/2022