Yn dilyn ymdrech a llwyddiant nodedig yn y sialens ‘Big Pedal’ eleni, cafodd pedwar ysgol o Geredigion eu gwobrwyo gydag ymweliad o Yinka Thomas, artist BMX enwog iawn ynghyd â chefnogaeth Matti Hemmings, daliwr record y byd.

Ar ddydd Gwener, 15 Mehefin, derbyniodd Ysgol Gymunedol Rhydypennau, Ysgol Penrhyncoch, Ysgol T Llew Jones ac Ysgol Aberteifi'r digwyddiad fel gwobr, wedi’i ariannu gan Gyngor Sir Ceredigion. Cawsant y wobr ar ôl cymryd rhan llwyddiannus yn y sialens ‘Big Pedal’; sialens seiclo a sgwteri rhyng-ysgol mwyaf yn y DU sy’n ysbrydoli disgyblion, staff a rhieni i ddewis dwy olwyn am eu taith i’r ysgol. Ar bob diwrnod o’r sialens, mae ysgolion yn cystadlu i weld pwy sy’n gallu cofnodi’r rhif mwyaf o siwrnai seiclo a sgwteri.

Mae disgyblion yng Ngheredigion yn cael cefnogaeth i seiclo, sgwtio neu gerdded i ysgol. Mae hyn oherwydd rhaglen Teithio Llesol Sustrans sy’n helpu ysgolion i gynyddu’r nifer o ddisgyblion yn teithio’n llesol i ysgol trwy amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau yno. Mae Teithio Llesol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan Sustrans Cymru.

Dywedodd Sioned Lewis, Swyddog Sustrans, “Mae’n gyffrous iawn i weld pa mor frwdfrydig y mae disgyblion, teuluoedd a staff ysgolion yng Ngheredigion wedi bod i gael mwy o blant a phobl ifanc i seiclo, cerdded a sgŵtio i’r ysgol. Rwyf wrth fy modd bod yr ysgolion wedi gwneud mor dda yn y ‘Big Pedal’ ac mae'n wych bod Cyngor Sir Ceredigion wedi ariannu'r digwyddiad hwn fel dathliad am eu holl ymdrechion.”

Mae dyletswydd gan Gyngor Sir Ceredigion i hwyluso a hyrwyddo teithio llesol ac mae tair tref yng Ngheredigion wedi cael eu dynodi fel ardaloedd teithio llesol sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, sy’n Hyrwyddwr Cynaliadwyedd, “Rwyf wrth fy modd yn gweld y lefel o gyfranogiad i’r ‘Big Pedal’ ar draws Ceredigion. Mae’n galanogol iawn bod cymaint o ddisgyblion ar draws y sir wedi cymryd rhan yn y sialens eleni ac rwy’n siŵr bydd y niferoedd yn cynyddu’n bellach yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r cyfraniad cyllid o Gyngor Sir Ceredigion tuag at y digwyddiad yn cydnabod bod y ‘Big Pedal’ a rhaglen Teithio Llesol Sustrans yn cefnogi a chanmol rhaglen y Cyngor ei hun ar Ddiogelwch ar y Ffyrdd, Addysg, Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth i helpu hyrwyddo’r defnydd o’n hisadeiledd seiclo a cherdded yn ddiogel.”

I gael mwy o wybodaeth ar sialens ‘Big Pedal’, ewch i’w gwefan, http://bigpedal.org.uk

 

19/06/2018