Bydd Ceredigion yn cyflwyno hysbysiad o’i fwriad i dynnu allan o ERW, cynghrair rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion, yn weithredol o 31 Mawrth 2021.

Cynghrair o chwe awdurdod lleol yw ERW sy’n darparu gwasanaethau gwella ysgolion ledled Canolbarth a De-orllewin Cymru. Caiff ERW ei lywodraethu gan Gyd Bwyllgor sydd wedi’i rwymo gan gytundeb cyfreithiol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2020, cytunodd aelodau’r Cabinet i gyflwyno’r hysbysiad i Gyd Bwyllgor ERW.

Yn sgil y ffaith bod Cynghorau eraill ar fin tynnu allan o ERW, holodd aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu a oedd hi’n amserol i Gyngor Ceredigion ailystyried ei aelodaeth o ERW.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes. Dywedodd: “Mae Ceredigion wedi buddsoddi’n helaeth yn y cysyniad o weithio rhanbarthol a’i roi ar waith. Mae Swyddogion wedi treulio cryn amser ac ymdrech yn creu gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol er mwyn gwella deilliannau a phrofiadau pob dysgwr yn y rhanbarth. Nid oes yn rhaid i ôl troed unrhyw wasanaeth gwella ysgolion yn y dyfodol fod yn gyson â model cyfredol ERW o reidrwydd.”

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol o ran datblygu dull cydweithredol ymhellach ar draws pob un o’r chwe awdurdod, gan gynnwys gwahanol safbwyntiau a blaenoriaethau, diffyg adnoddau a chyllid i feysydd blaenoriaeth yng Ngheredigion, a diffyg cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg oherwydd nad oedd elfennau o ddarpariaeth ERW ar gael yn Gymraeg.

Aeth y Cynghorydd Miles yn ei blaen, “Mae Ceredigion yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r egwyddor o weithio mewn amrywiol fathau o bartneriaethau gydag eraill er budd ein disgyblion.”

Bydd adolygiad manwl a chyfredol yn cael ei gynnal ynghylch effaith ERW ar wella ysgolion a gwerth am arian, a bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu a’r Cabinet. Bydd hyn yn cael ei ddarparu cyn diwedd y cyfnod rhybudd ar gyfer y penderfyniad terfynol.

17/03/2020