Yn dilyn pleidlais swyddogol, mae penderfyniad wedi cael ei wneud i roi’r gorau i gefnogi Ardal Gwella Busnes Aberystwyth.

Sefydlir Ardal Gwella Busnes (AGB) trwy broses bleidleisio gyfreithiol. Gellir ei sefydlu i fod yn weithredol am hyd at bum mlynedd, ac ar ôl hynny rhaid cynnal pleidlais i’w hadnewyddu. Golyga hyn fod pob busnes sy’n talu ardrethi busnes yn yr ardal yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn y ddogfen gynnig.

Mae Advancing Aberystwyth Ar y Blaen wedi bod yn weithredol oddi ar mis Ebrill 2016, gyda busnesau yn talu ardoll ychwanegol i ariannu prosiectau. Ar ôl pum mlynedd, roedd yn rhaid cynnal pleidlais i adnewyddu’r cynllun.

Agorodd y bleidlais ar gyfer yr holl fusnesau yn Ardal Gwella Busnes Aberystwyth ar 04 Mawrth 2021, gan gau ar 31 Mawrth 2021.

Daeth y canlyniadau i’r casgliad nad yw’r cynnig i barhau i gynnal Ardal Gwella Busnes yn Aberystwyth wedi cael ei gymeradwyo.

Mae'r Hysbysiad ar gael i'w ddarllen yn llawn ar wefan Etholiadau a Chofrestru Etholiadol y Cyngor: Ardal Gwella Busnes Aberystwyth - Datgan Canlyniad y Bleidlais

01/04/2021