Mae ymwelwyr a thrigolion yn cael eu hannog i aros gartref dros benwythnos y Pasg.
Er bod Ceredigion yn atyniad i ymwelwyr yn ystod y gwyliau ac ar ddiwrnodau braf, diolchwn i’r cyhoedd am beidio â dod i Geredigion yn ystod y cyfnod hwn.
Atgoffir trigolion Ceredigion i beidio â mynd allan oni bai bod hynny’n hanfodol, ac mae hyn yn cynnwys:
- Siopa am eitemau hanfodol
- Gwneud ymarfer corff
- Diwallu anghenion meddyginiaethol a gofalu am unigolion bregus
- Teithio i’r gwaith ac adref pan nad ydych yn gallu gweithio gartref.
Mae’n rhaid i drigolion wneud defnydd o’u milltir sgwâr ar yr adeg hon a pheidio â theithio i leoliadau eraill, ac mae hyn yn cynnwys peidio â mynd at yr arfordir, i fyny’r mynyddoedd, neu gael picnic yn yr haul.
Bydd digonedd o amser i fwynhau Ceredigion unwaith y bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben.
Mae diweddariadau rheolaidd ynglŷn â’r sefyllfa yng Ngheredigion yn cael eu rhannu ar wefan y Cyngor. Gallwch hefyd dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar Facebook, Twitter ac Instagram.
09/04/2020