Mae trigolion Ceredigion yn cael eu rhybuddio i beidio â cholli eu llais ar benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw drwy sicrhau bod eu manylion cofrestru etholiadol yn gyfredol.

Mae'r canfas blynyddol yn sicrhau y gall Ceredigion sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn gyfredol, gan nodi unrhyw breswylwyr nad ydynt wedi’u cofrestru i bleidleisio fel y gellir eu hannog i wneud hynny. Gall mwy o bobl bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru nag erioed o’r blaen, felly mae hwn yn gyfle pwysig i ddiweddaru’r gofrestr etholiadol. Gall unrhyw un 16 oed a throsodd bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ac etholiadau Senedd Cymru, ni waeth lle cawsant eu geni.

Mae angen i drigolion gadw llygad am lythyr gan Wasanaethau Etholiadol Ceredigion fel y gallwn sicrhau bod gennym y manylion cywir ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yng Ngheredigion. Sicrhewch eich bod yn gwirio’r manylion ar y llythyr. Os nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Os nad ydych chi wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y llythyr y byddwn yn ei anfon at eich cyfeiriad. Os ydych chi eisiau cofrestru, y ffordd hawsaf o wneud hyn yw ar-lein ar dudalen Cofrestru i Bleidleisio'r Llywodraeth neu gallwch gysylltu â’r gwasanaethau etholiadol drwy e-bostio electoralservices@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 572032.

Mae’r rheiny sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn arbennig yn cael eu hannog i wirio eu manylion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol wedi canfod bod y rhai sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi'u cofrestru na'r rheiny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am amser hir. Ym Mhrydain Fawr, bydd 92% o’r rheiny sydd wedi byw yn eu cartref am 16 mlynedd yn gofrestredig, o gymharu â 36% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am lai na blwyddyn.

Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Ceredigion. Dywedodd: “Mae’r canfasiad blynyddol yn ffordd o sicrhau bod yr wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir. Er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych chi'n colli'ch llais yn yr etholiad nesaf, cadwch lygad allan am gyfarwyddiadau gennym.

 “Os nad ydych yn clywed gan y cyngor, efallai na fyddwch ar y gofrestr. Os ydych am gofrestru, y ffordd hawsaf yw trwy wneud hynny ar-lein ar dudalen Cofrestru i Bleidleisio'r Llywodraeth.”

Gall trigolion sydd ag unrhyw gwestiynau gysylltu â thîm Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion drwy electoralservices@ceredigion.gov.uk neu 01545 572032.

30/09/2022