Mae trigolion Ceredigion yn cael eu rhybuddio i beidio â cholli eu llais ar benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw drwy sicrhau bod eu manylion cofrestru etholiadol yn gyfredol.

Gan y bydd etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal yng Ngheredigion ar 5 Mai 2021, mae hwn yn gyfle pwysig i drigolion sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan. Mae hefyd yn bwysig bod ar y gofrestr etholiadol ar gyfer eich statws credyd.

Mae'r canfasiad blynyddol yn sicrhau y gall Ceredigion sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn gyfredol, gan nodi unrhyw breswylwyr nad ydynt wedi’u cofrestru i bleidleisio fel y gellir eu hannog i wneud hynny. Gan fod pobl ifanc 16-17 oed a phobl o bob cenedl bellach yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol yng Nghymru, bydd hwn yn gyfle pwysig i sicrhau y gall y pleidleiswyr newydd hyn gael eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol cyn etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf. 

Mae angen i drigolion gadw llygad am lythyr gan Wasanaethau Etholiadol Ceredigion fel y gallwn sicrhau bod gennym y manylion cywir ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yng Ngheredigion. Sicrhewch eich bod yn gwirio’r manylion ar y llythyr. Os nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Os nad ydych chi wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y llythyr y byddwn yn ei anfon at eich cyfeiriad. Os ydych chi eisiau cofrestru, y ffordd hawsaf o wneud hyn yw ar-lein ar www.gov.uk/register-to-vote neu gallwch gysylltu â’r gwasanaethau etholiadol drwy e-bostio electoralservices@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 572032.

Yn arbennig, anogir pobl sydd wedi symud yn ddiweddar i ddarparu eu manylion cywir i Wasanaethau Etholiadol Ceredigion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol a gyhoeddwyd yn 2019 yn nodi bod y rheini sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru na’r rheini sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad ers amser hir.

Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Ceredigion. Dywedodd: “Does dim ots ble cawsoch chi eich geni. Os ydych yn 16 oed neu'n hŷn gallwch bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru, ond dim ond os byddwch yn cofrestru i bleidleisio yn gyntaf. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru yng Ngheredigion, sicrhewch eich bod yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i ni pan fydd ei hangen ac yn cofrestru i bleidleisio ar-lein ar www.gov.uk/register-to-vote."

Mae gwybodaeth ynglŷn â chofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Gall trigolion sydd ag unrhyw gwestiynau gysylltu â thîm Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion drwy electoralservices@ceredigion.gov.uk neu 01545 572032.

07/09/2021