Cynhaliwyd Parti Gardd i Ofalwyr ar 11 Ebrill yn Aberystwyth i ddod â gofalwyr o bob oedran at ei gilydd, gan roi cyfle iddynt ddiosg eu dyletswyddau gofal a mwynhau gyda’u hanwyliaid.

Bu myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer cymhwyster BTEC Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Ceredigion yn gweithio’n galed gydag Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion gyda’r nod o gynnal Parti Gardd a fyddai’n rhodd arbennig i Ofalwyr.

Yn dilyn chwe mis o gynllunio, ymchwilio a gwaith caled, cafodd Hwb Cwrt Mawr, Prifysgol Aberystwyth wedi ei addurno’n lliwgar, gan gynnwys pompomau ar ffurf blodau mawr, coronblethau o flodau, baneri blodeuog a llestri tsieina fel rhai ‘slawer dydd  – llwyddwyd heb os i ddod â’r ardd i mewn i’r adeilad, gan godi calon pawb oedd yno.  

Dywedodd Arwyn Morris, Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Gyswllt Cwsmeriaid, “Gall y cyfrifoldeb o ofalu am rywun ddydd ar ôl dydd gael effaith ar berson a gall hefyd fod yn rhwystr rhag mwynhau’r eiliadau bach cyffredin hynny ymysg teulu a ffrindiau. Rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle i Ofalwyr eistedd yn ôl ac ymlacio gyda’i gilydd am ychydig oriau. Gwnaeth y myfyrwyr gymaint o ymdrech i greu’r cyfle hwnnw i orffwys a magu nerth newydd, roeddent wedi meddwl am bob manylyn…fe lwyddon nhw hyd yn oed i wneud yn siŵr bod yr haul yn gwenu!”.          

Gwnaethpwyd i ofalwyr o bob oedran deimlo’n gartrefol ac yn bwysig o’r eiliad y cyrhaeddon nhw, fe’u cyfarchwyd wrth y fynedfa fel enwogion, derbyniasant roddion croesawu, fe’u tywyswyd i fyrddau a seddau cyfforddus a chawsant bob gofal a sylw. Paratowyd y te prynhawn a’i weini hefyd gan fyfyrwyr yr Adran Arlwyo – gan gynnwys sgonau â mefus a chacennau blasus eraill. 

Y myfyrwyr hefyd oedd yn gyfrifol am ddifyrru’r gofalwyr, gyda’r adloniant yn cynnwys digrifwyr ar eu traed, eitemau ffidil, canu, iwceleli, unawd ar y piano a mwy. Mwynhaodd gofalwyr o bob oedran weithgareddau tawelach hefyd, megis lliwio, gemau bwrdd a’r cyfle i eistedd a sgwrsio gyda Gofalwyr a theuluoedd eraill. 

Dywedodd un Gofalwr, “Fe wnaethon ni fwynhau popeth oedd wedi ei drefnu i ni yn fawr iawn, gan gynnwys y syniad hyfryd o roi mat diod a hadau i ni a hefyd yr adloniant penigamp a oedd yn gwbl annisgwyl ond a oedd mor wych.  Roedd y lleoliad yn rhagorol hefyd (yn olau braf) ac roeddwn i’n hoffi’r holl bethau bach arbennig roeddech chi wedi eu gwneud – y tu mewn a thu allan.  Roedd y gemau draffts yn arbennig! Roedd hynny yn ychwanegiad annisgwyl ac fe fanteision ni arnynt….Anhygoel.”

Hoffai’r Uned Gofalwyr ddiolch i Dîm Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth am y lleoliad a’r staff ychwanegol a chefnogaeth myfyriwr arweiniol drwy gydol y dydd. 

Mae gofalwyr yn darparu gofal di-dâl drwy edrych ar ôl aelod o’r teulu neu ffrind sy’n sâl, yn anabl, yn fregus, neu sy’n cael pethau’n anodd oherwydd afiechyd meddwl neu ddibyniaeth ar sylwedd. Gall helpu anwyliaid i wneud y gorau o’u sefyllfa mewn bywyd ddod â boddhad mawr ond gall fod yn brofiad heriol iawn hefyd. 

Os hoffech ddod o hyd i fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Uned Gofalwyr ar 01970 633564 neu carersunit@ceredigion.gov.uk.

25/04/2019