Mae Parthau Diogel wedi bod ar waith mewn pedair tref yng Ngheredigion ers tair wythnos.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu Parthau Diogel yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd i gael lle agored a diogel. Diben y Parthau Diogel yw creu gofod lle gall pobl gerdded o gwmpas yn ddiogel ac yn hyderus a mwynhau’r hyn sydd gan ein trefi i’w gynnig.

Mae’r pedair tref wedi bod yn brysur wrth i boblogaeth Ceredigion ddyblu gydag ymwelwyr law yn llaw â dechrau’r gwyliau ysgol. Mae’r parthau diogel wedi cynnig gofod i sicrhau y gellir cynnal pellter cymdeithasol yn y trefi hyn. Mae busnesau wedi manteisio ar y cyfle i greu lle yn yr awyr agored i bobl fwynhau.

Gall ymwelwyr fanteisio ar y llefydd parcio am ddim mewn meysydd parcio dynodedig a’r amser i fwynhau a chefnogi busnesau lleol. Mae rhestr o feysydd parcio Talu ac Arddangos y Cyngor, sydd am ddim ar hyn o bryd, i’w gweld yma: www.ceredigion.gov.uk/parcio ac mae arwyddion ychwanegol yn cael eu harddangos i gyfeirio ymwelwyr i’r meysydd parcio am ddim.

Diolchwn i’r rheini sydd wedi cysylltu â ni i rannu eu barn a’u sylwadau ynghylch y parthau diogel. Yn dilyn adborth, gwnaed rhai newidiadau lle bo’n briodol.

Mae’r addasiadau’n cynnwys y canlynol:

• Symudwyd y rhwystrau y tu allan i Rodfa Fuddug, Aberystwyth ac ar hyd rhan o’r prom. Mae llefydd parcio bellach ar gael yn yr ardal hon.
• Cael gwared â’r cyfyngiadau traffig trwodd yng nghyffiniau Heol y Castell a Maes Iago, Aberystwyth.
• Darparu llefydd parcio ychwanegol i’r anabl yn y lleoliadau a nodir ar y mapiau.
• Gwaith i ledu’r troedffyrdd yn Aberaeron.

Mae 21 diwrnod cyntaf y pedwar parth diogel hyn wedi cael eu hymestyn am 21 diwrnod arall o hanner nos, 02 Awst 2020. Rhoddir ystyriaeth i ymestyn y parthau diogel hyn ymhellach.

Mae parthau diogel mewn trefi eraill o fewn y sir yn cael eu hystyried ar raddfa lai.

Diolchwn i drigolion Ceredigion am gadw at y rheoliadau ac am gadw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn gymharol isel.

Cadwch Ceredigion yn Ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y Parthau Diogel ar gael ar wefan y Cyngor.

31/07/2020