Gyda 14,621 o bobl yng Ngheredigion wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn COVID-19 erbyn 10 Chwefror 2021, atgoffir y rhai sydd wedi ei dderbyn i ddilyn y rheolau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r rhaglen brechlyn yn gyflym. Fodd bynnag, ni allant ddechrau llacio mesurau a chanllawiau sy'n amddiffyn pobl. Maent ar waith i amddiffyn eich teulu, eich ffrindiau, y gymuned a phobl Ceredigion a thu hwnt.

Fe'ch gwahoddir i dderbyn eich brechlyn yn eich dro, a bydd eich meddyg teulu neu'r bwrdd iechyd yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad ar yr adeg berthnasol. Mae mwy o wybodaeth am y brechlynnau ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

  • Cadw'n ddiogel wrth deithio i dderbyn eich brechlyn

Mae'r canolfannau brechu torfol a Meddygfa Teulu yn darparu amgylchedd diogel a lle i gynnal pellter cymdeithasol er mwyn caniatáu i fwy o bobl gael eu brechu mor effeithlon a chyn gynted â phosibl. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn sicrhau eich diogelwch wrth deithio yn ôl ac ymlaen i'ch apwyntiad mewn canolfan frechu dorfol.

Os oes gennych fynediad i'ch cludiant preifat eich hun dylid ei ddefnyddio i fynychu eich apwyntiad. Gellir derbyn lifftiau gan rywun yn eich cartref neu swigen gefnogol, ond nid gan unrhyw un arall oherwydd y risg o drosglwyddo'r firws. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio'n agos gyda sefydliadau cymunedol a grwpiau trafnidiaeth i sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i'r rheini sy'n wirioneddol yn ei chael hi'n anodd teithio i ganolfan frechu dorfol. Cysylltwch â'r bwrdd iechyd gan ddefnyddio'r rhif ar eich llythyr apwyntiad os oes angen cymorth arnoch gyda chludiant neu ewch i dudalennau gwe'r Canolfannau Brechu Torfol ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

  • Cadw eich hun ac eraill yn ddiogel ar ôl eich brechlyn

Dylai'r rhai sydd wedi derbyn y brechlyn COVID-19 cyntaf barhau i weithredu i atal lledaeniad coronafirws yn y gymuned. Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod y dos cyntaf yn darparu lefelau uchel o ddiogelwch tymor byr, er hyn, nid ydym yn gwybod eto a yw'r brechlynnau yn ein hatal rhag dal a throsglwyddo'r firws i eraill. Felly mae'n rhaid parhau i ddilyn yr holl ganllawiau nid yn unig i amddiffyn eich hun ond hefyd y bobl o'ch cwmpas. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid parhau i aros gartref, lleihau pob cyswllt ag eraill oni bai ei fod yn hanfodol a chadw 2 fetr ar wahân, hunan-ynysu pan fo angen, golchi'ch dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb yn ôl yr angen.

  • Ail ddos ​​y brechlyn COVID-19

Mae'n bwysig cael yr ail ddos ​​ar gyfer amddiffyniad tymor hwy. Fe'ch gelwir i dderbyn eich ail ddos o fewn 12 wythnos i'ch cyntaf. Parhewch i ddilyn y canllawiau i amddiffyn eraill.

  • Y rhai sy'n cysgodi

Mae llawer o unigolion yn glinigol agored iawn i COVID-19, ac fe'u cynghorwyd i gysgodi, oherwydd bod eu system imiwnedd yn cael ei hatal gan afiechyd neu driniaeth y maent yn ei derbyn. Mae hyn yn golygu na allant ymladd haint yn dda. Mae hefyd yn golygu nad ydyn nhw'n ymateb yn dda i frechlynnau. Mae'n bwysig eu bod nhw a phawb arall yn parhau i ddilyn canllawiau COVID-19, fel pellhau cymdeithasol, hylendid dwylo a gorchudd wyneb hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu brechu.

Hyd yn oed os ydych chi wedi cael y ddau ddos ​​o frechlyn COVID-19, dylech barhau i ddilyn y cyngor cysgodi, nes bydd rhybudd pellach wrth i ni barhau i asesu effaith brechu ymhlith yr holl grwpiau. Dylai'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw barhau i ddilyn y rheolau a'r canllawiau iechyd cyhoeddus cyhyd â'u bod yn eu lle, gan gynnwys a ydych chi wedi derbyn y brechlyn a hefyd os ydyn nhw wedi derbyn y brechlyn.

Mae Ceredigion a Chymru ar Lefel Rhybudd 4, ac mae'r rheolau sydd mewn grym i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth a chyngor ynghylch sefyllfa coronafeirws yng Ngheredigion ar gael ar wefan y Cyngor neu ffoniwch 01545 570881.

Diolch am gadw hyd braich i leddfu’r baich.

Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

10/02/2021