Bydd parcio yn rhad ac am ddim ym mhob maes parcio Talu ac Arddangos Cyngor Sir Ceredigion am y tri dydd Sadwrn cyn y Nadolig y flwyddyn yma.

Mae’r datblygiad yma yn dilyn penderfyniad a wnaed gan Gabinet y Cyngor ar 16 Hydref 2018. Bydd ffioedd parcio ym meysydd parcio Talu ac Arddangos y Cyngor yn cael eu hildio ar 8, 15 a 22 Rhagfyr 2018.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, y Cynghorydd Dafydd Edwards, “Mae’r Nadolig yn gyfnod pwysig iawn i fusnesau bach yn ein trefi. Bydd y penderfyniad yma yn cefnogi pobl i baratoi am y dathliadau yn lleol a bydd hefyd yn cefnogi busnesau bach i gystadlu gyda dylanwad cynyddol siopa ar-lein.”

Mae’r penderfyniad yn cyfrannu tuag at un o flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor o hybu’r economi.

17/10/2018