Bydd parcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio Talu ac Arddangos Cyngor Sir Ceredigion ar y tri dydd Sadwrn cyn y Nadolig eleni.
Bydd costau parcio mewn meysydd parcio Talu ac Arddangos sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor yn cael eu hepgor ar 7, 14 a 21 Rhagfyr 2019.
Rhodri Llwyd yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol. Dywedodd: “Bydd busnesau bach yn cystadlu yn erbyn busnesau ar-lein am fasnach y Nadolig hwn. Rydym am wneud yr hyn a allwn i gefnogi busnesau Ceredigion ar yr adeg bwysig hon o’r flwyddyn. Rydym yn gobeithio y bydd y cam hwn yn annog mwy ohonom i siopa’n lleol y Nadolig hwn a mwynhau’r hyn sydd gan fusnesau gwych Ceredigion i’w cynnig.”
Aberaeron
Ffordd y Gaer isaf
Traeth y De
Traeth y Gogledd
Aberystwyth
Coedlan y Parc – lle fu’r parcio a theithio
Coedlan y Parc isaf
Ffordd y Gogledd
Maesyrafon
Rhodfa Newydd
Aberteifi
Cae’r Ffair
Mwldan
Rhes Gloster
Sgwâr Cae Glas (Arhosiad byr)
Stryd y Cei
Y Baddondy
Llambed
Cwmins
Rookery
Stryd y Farchnad (Arhosiad byr)
Llandysul
Rhes y Porth
Cei Newydd
Ffordd yr Eglwys
Stryd y Cware
Tregaron
Iard y Talbot
Mae’r penderfyniad hwn yn cyfrannu tuag at un o flaenoriaethau corfforaethol y cyngor, sef hybu’r economi.
12/11/2019