Wrth i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau’r coronafeirws ymhellach, mae’n bwysicach fyth ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i leihau’r risg o haint wrth i siopau a’r sector twristiaeth ailagor yn raddol.

Gallwn wneud hyn trwy ddilyn mesurau llym o ran cadw pellter cymdeithasol a hylendid, gan sicrhau bod gan siopau a busnesau eraill drefniadau priodol ar waith a’u bod yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros gadw cyfraddau heintio yn isel, ac yn ymfalchïo yn hynny.

Ar ôl misoedd o fod ar gau, ddydd Llun (22 Mehefin 2020) ailagorwyd nifer o siopau ledled y sir. Mae’r siopau hynny sydd wedi agor wedi cyflwyno mesurau i’w gwneud yn fwy diogel, ond mae angen i gwsmeriaid gadw at y mesurau hynny er mwyn iddynt weithio.

Gyda disgwyl i fwy o bobl ddefnyddio’r trefi dros y diwrnodau a’r wythnosau nesaf, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn rhoi rhagor o fesurau ar waith yn y trefi er mwyn eu gwneud yn fwy diogel, yn enwedig os bydd pobl yn cael teithio ymhellach ac ymweld am wyliau.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod y canllawiau yn eglur a’u bod yn darparu’r cydbwysedd cywir rhwng ailagor y sector twristiaeth a’r sector lletygarwch, ac yn sicrhau bod y mesurau a’r rheoliadau cywir ar waith.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda busnesau a chymunedau lleol yn y diwydiant twristiaeth er mwyn paratoi i groesawu ymwelwyr yn ôl yn raddol pan fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sêl bendith – disgwylir cyhoeddiadau pellach yn ystod yr wythnosau nesaf.

Er mwyn paratoi at hynny, mae darparwyr llety ac atyniadau i ymwelwyr yn cael eu cefnogi i baratoi ar gyfer ailagor yn raddol, gyda mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith i dawelu meddwl busnesau, cymunedau, staff ac ymwelwyr. Mae cyngor ymarferol, adnoddau a chymorth, gan gynnwys arwyddion a deunyddiau marchnata, hefyd ar gael.

Credwn yn gryf y bydd y diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion yn derbyn eu cyfrifoldeb cymdeithasol i ddiogelu ein cymunedau a’n hymwelwyr. Felly, gofynnwn fod pob busnes sy’n rhan o’r diwydiant yn cymryd pob cam i sicrhau diogelwch staff, ymwelwyr a thrigolion lleol, gan ddefnyddio’r canllawiau a gyhoeddwyd gan grwpiau yn y diwydiant a Chroeso Cymru.

Mae hefyd angen i ymwelwyr, boed yn ymweld i siopa neu ddod am seibiant, dderbyn eu cyfrifoldeb cymdeithasol i ymddwyn mewn modd sy’n parchu’r mesurau sydd ar waith er mwyn lleihau’r risg a diogelu ein cymunedau.

Mae’r sector twristiaeth a lletygarwch yn hynod bwysig i’n heconomi arfordirol a gwledig, ac mae ei lwyddiant yn hanfodol i’n cymunedau. Mae’n hanfodol felly ein bod yn llwyddo. Mae brwydro’r coronafeirws yng Ngheredigion yn parhau i fod yn waith tîm, ac os ydym i gyd yn chwarae ein rhan, gallwn groesawu ein siopwyr a’n hymwelwyr yn ôl yn ddiogel ac yn hyderus.

23/06/2020