O fis Medi 2018, bydd teuluoedd yng Ngheredigion ymysg y rheini yng Nghymru sy’n gallu hawlio 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi ei ariannu gan y Llywodraeth am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn fel rhan o’r Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Bydd y Cynnig yn gyfuniad o addysg gynnar sydd eisoes yn bodoli a ddarparwyd gan y Cyfnod Sylfaen sydd ar gael i bob plentyn tair a phedair blwydd oed a’r gofal plant ychwanegol sydd wedi ei ariannu i deuluoedd cymwys.

Mae ffurflen gofrestru ar-lein i rieni sydd eisiau ceisio am y cynnig gofal plant eisoes yn cael ei ddatblygu. Bydd hwn yn barod erbyn diwedd mis Mehefin ac ar agor am geisiadau. Bydd gwybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor ymhen tro.

Mae darparwyr gofal plant yn cael eu hysbysu o beth sydd angen iddynt wneud i allu darparu’r cynnig gofal plant yng Ngheredigion. Mae ffurflen gofrestru ar-lein i ddarparwyr gofal plant yn cael ei gwblhau y bydd yn galluogi iddynt gofrestru gyda’r Cyngor fel darparwyr y Cynnig Gofal Plant.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, “Mae cyflwyniad y Cynnig Gofal Plant yng Ngheredigion yn newyddion gwych i rieni sy’n gweithio. Mae cost gofal plant yn faich ar deuluoedd yn enwedig yng Ngheredigion ble mae cyflogau yn is na rhannau arall o’r wlad. Bydd y budd o gael hyd at 20 awr o ofal plant ar ben yr agwedd y Cyfnod Sylfaen yn gymorth mawr. Mae’r Cyngor wrthi’n gweithio rhagweithiol i wneud y trefniadau angenrheidiol i ddarparu’r Cynnig Gofal Plant.”

Dywedodd Huw Irranca-Davies, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, “Mae ein cynnig gofal plant arloesol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni ledled Cymru, gan leihau'r straen ar incwm teuluoedd a helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn eu rhwystro rhag derbyn swydd neu gynyddu eu horiau. Mae'n bleser mawr gennyf gadarnhau bod y cynnig yn cael ei ehangu i Geredigion, wrth inni barhau i weithio i gyflwyno'r cynnig yn raddol drwy Gymru gyfan erbyn mis Medi 2020.”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Clic Ceredigion ar 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

19/06/2018