Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn gofyn i breswylwyr roi eu barn am deledu cylch cyfyng.

Mae'r Panel yn cynnal arolwg cyhoeddus yn dilyn gosod teledu cylch cyfyng mewn 24 o drefi ledled ardal yr heddlu sy'n cwmpasu pedwar awdurdod – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Mae aelodau'r Panel, sy'n cynrychioli'r pedwar awdurdod lleol, am wybod a yw'r buddsoddiad wedi bod yn effeithiol ac a yw'n cael ei gefnogi gan y cyhoedd.

Bydd yr adborth o'r arolwg yn cael ei gasglu a'i gyflwyno i'r Comisiynydd Heddlu mewn cyfarfod o'r Panel yn y dyfodol.

Gofynnir i breswylwyr a oes ganddynt unrhyw bryderon am y defnydd o deledu cylch cyfyng gan yr heddlu, y wybodaeth y mae'n ei chasglu ac a yw'n gwneud i bobl deimlo'n fwy diogel. Mae'r Panel hefyd am wybod a hoffai pobl weld mwy o systemau teledu cylch cyfyng yn cael eu rhoi ar waith mewn ardaloedd eraill yn Nyfed-Powys.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, Cadeirydd y Panel: “Rydym yn awyddus i gael gwybod a yw'r buddsoddiad mewn teledu cylch cyfyng yn cael ei gefnogi gan y cyhoedd ac a yw wedi gwneud gwahaniaeth i'r ardaloedd lle maen nhw'n byw. A hefyd, a hoffai'r cyhoedd weld rhagor o fuddsoddiad mewn teledu cylch cyfyng.”

Gellir dod o hyd i'r arolwg ar wefan Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, www.panelheddluathroseddudp.cymru/

Hefyd, ewch i'r wefan i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a dolenni gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i'r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.

12/10/2020