Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi cymeradwyo cynllun gweithredu a nodwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu'r ardal.

Gwnaeth y Panel ymgynnull i drafod nifer o faterion yn ymwneud â phlismona yn y rhanbarth, ac i herio a chraffu ar waith a phenderfyniadau'r Comisiynydd.

Wrth gyflwyno ei ddrafft o'r Cynllun Heddlu a Throseddu, dywedodd Dafydd Llywelyn mai ei brif nod oedd cadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel, a chefnogi pobl i gynnal ymddiriedaeth a hyder mewn plismona a chyfiawnder.

Mae ei gynllun drafft ar gyfer 2021-2025 yn nodi cyfres o flaenoriaethau, gan gynnwys cefnogi dioddefwyr troseddau, atal niwed i unigolion a chymunedau, a gwella hyder yn y system cyfiawnder troseddol.

Ar y pwynt hwnnw, wrth iddynt graffu ar y cynllun, tynnodd aelodau'r Panel sylw at y nifer uchel o ddioddefwyr a dynnodd yn ôl o'r broses cyfiawnder troseddol, gan nodi bod gan Heddlu Dyfed-Powys un o'r cyfraddau uchaf o dynnu'n ôl.

Dywedodd Mr Llywelyn ei fod yn gobeithio y byddai rhoi'r dioddefwr yng nghanol y system cyfiawnder troseddol yn arwain at welliannau yn y maes hwn.

Roedd plismona ardaloedd gwledig hefyd yn bwnc trafod, gyda'r Comisiynydd yn datgan y byddai newidiadau gweithredol a oedd cael eu gweithredu ar hyn o bryd yn sicrhau bod digon o bresenoldeb gan yr heddlu y tu allan i brif drefi a phentrefi.

Dywedodd y byddai'n sicrhau y byddai swyddogion yn weladwy ar draws ardal yr heddlu, gyda mwy o ymgysylltu â'r gymuned a phatrolio a phlismona rhagweithiol wrth symud ymlaen.

Yn dilyn gwaith craffu'r Panel ar y cynllun, sicrhaodd Mr Llywelyn y byddai adborth yn cael ei ystyried cyn i'r Cynllun gael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd Cadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, y Cynghorydd Alun Lloyd Jones: “Rydym yn ddiolchgar ein bod wedi cael y cyfle i graffu ar y cynllun a chyfrannu ato ar ran, ac er lles, pobl Dyfed-Powys. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynllun gorffenedig.”

Dysgwch fwy am flaenoriaethau plismona'r Comisiynydd a'r materion a godwyd gan y Panel drwy wylio gweddarllediad archif o'r cyfarfod - ewch i www.dppoliceandcrimepanel.wales

18/11/2021