Bydd praesept arfaethedig Heddlu Dyfed-Powys yn destun craffu yng nghyfarfod cyntaf Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn 2022.

Bydd aelodau'r Panel yn cyfarfod ar 28 Ionawr i drafod y praesept ac i herio'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn ynghylch ei gynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae'r panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu a dau aelod annibynnol, ac mae ganddynt y pŵer i gymeradwyo neu roi feto ar benderfyniadau ynghylch materion fel praesept y dreth gyngor.

Caiff plismona lleol ei ariannu gan grant o'r Swyddfa Gartref yn ogystal â chyfraniadau gan y cyhoedd drwy'r Dreth Gyngor, sy'n cael ei adnabod fel praesept yr heddlu.

Yn ystod y cyfarfod bydd Mr Llywelyn yn rhoi gwybod i'r panel am ganfyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar gyllido'r heddlu, gan ddweud bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr wedi nodi eu bod yn fodlon talu mwy tuag at blismona.

Mae'n cynnig cynnydd o 5.30% yn y praesept o gymharu â'r llynedd, a fyddai'n codi cyfraniad eiddo cyfartalog ym mand D tuag at wasanaethau plismona £1.22 y mis, sef £14.60 y flwyddyn.

Dywed ei adroddiad i'r panel y byddai hyn yn darparu £127.521 miliwn o gyllid lleol a chraidd canolog ar gyfer 2022/23, gan ganiatáu i'r Heddlu ganolbwyntio ar gyflawni Cynllun Heddlu a Throseddu newydd a pharhau i ddiogelu cymunedau Dyfed-Powys o dan arweinyddiaeth y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, Cadeirydd y Panel: “Bydd yn ddiddorol clywed beth mae'r Comisiynydd yn ei flaenoriaethu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, a byddwn yn awyddus i sicrhau bod y cynlluniau hyn o fudd i bobl ardal Dyfed-Powys. Rydym yn ymwybodol o'r baich cynyddol y mae trethi yn ei osod ar aelwydydd a byddwn eisiau sicrwydd bod trigolion ardal yr heddlu yn cael gwerth am arian.”

Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a dolenni gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i'r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.

Gellir cyflwyno cwestiynau ar-lein, neu'n ysgrifenedig drwy anfon neges e-bost at panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod cyn cyfarfod.

 

27/01/2022