Yn dilyn ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i gadw Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon, ger Llanarth ar agor gyda newid mewn oriau agor.

Bydd Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon ger Llanarth yn cau ar ddydd Gwener, 30 Tachwedd 2018 am 17:00 ar gyfer newidiadau i’r safle i gael eu cyflawni. Bydd y safle yn ailagor ar ddydd Mercher, 05 Rhagfyr 2018 am 10:00 o dan yr oriau newydd.

Dyma’r oriau agor newydd yn weithredol o ddydd Mercher, 05 Rhagfyr 2018:
• Dydd Llun: Ar gau
• Dydd Mawrth: Ar gau
• Dydd Mercher: 10:00 - 17:00
• Dydd Iau: Ar gau
• Dydd Gwener: Ar gau
• Dydd Sadwrn: 10:00 - 17:00
• Dydd Sul: 10:00 - 17:00

Nodwyd gan y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Amgylcheddol yn cynnwys Gwastraff, “Mae angen i’r Cyngor gael y balans anodd rhwng cynnal gwasanaeth gwerthfawr i drigolion gyda’r angen i reoli’r pwysau ariannol difrifol i gyllidebau’r Cyngor. Mae’r penderfyniad yma yn adlewyrchu cyfaddawd sydd wedi ei wneud rhwng dau flaenoriaeth sy’n gwrthwynebu ei gilydd. Mae trigolion yn cael eu hannog i ddelio a’u gwastraff yn gyfrifol gan ddefnyddio’r safle yn briodol.”

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Ceredigion ar 01545 570881 neu ewch i’r wefan www.ceredigion.gov.uk/ailgylchu.

02/11/2018