Ar Nos Sadwrn, 9 Tachwedd ac am y tro cyntaf mewn dros ddegawd, dychwela tîm Llwyfannau Llai Opera Canolbarth Cymru (OCC) yn ôl i Theatr Felinfach gydag ailwampiad radical o waith a ysgrifennodd John Gay yn 1728, ‘The Beggar's Opera’. Ymunwch â Mrs Peachum, Polly ei merch a’r Cardotyn yn eu dehongliad beiddgar o berthnasau a rhinweddau cymharol gwyryfdod.

Yn ei dychryn ynglŷn â phriodas anghyfreithlon Polly gyda lleidr pen ffordd gyfeiliornus, ceisia Mrs P drefnu bod y dihiryn yn cael ei grogi a bod Polly’n hawlio’r wobr. Caiff ffyddlondeb a chariad eu rhoi ar brawf wrth i lofruddiaeth, llid a chynddaredd ddod â’r comedi drasig a chyffrous hon i’w chasgliad. A fydd pethau’n cael eu gadael mor drist ac a fydd Polly’n aros yn ffyddlon i’w chariad ac yn cefnu ar ei mam â’i jin?

Mae’n bleser gan OCC berfformio’r opera newydd un act hon, wedi’i haddasu gan Richard Studer, mewn fersiwn gerddorol newydd gan Jonathan Lyness. Daw cyfeiliant gan Ensemble o bedwar cerddor Llwyfannau Llai OCC a gyda chast o dri chanwr; y mezzo soprano wych o Ogledd Iwerddon, Carolyn Dobbin fel Mrs Peachum (Madame Popova, The Bear, Llwyfannau Llai 2017) a’r soprano Gymreig Alys Mererid Roberts fel ei merch ddi-glem. Roedd Carolyn Dobbin yn y cynhyrchiad diwethaf ddaeth OCC i Theatr Felinfach yn 2008, sef ‘Tales of Hoffman’.

Fel yn opera faled wreiddiol John Gay, mae’r sgôr yn orlawn o alawon newydd a chyfarwydd, o Lillibolero i Greensleeves. Mae adnewyddiad OCC o’r comedi yn cynnwys llawn cymaint o droeon annisgwyl yn y gerddoriaeth ag a welir yn y plot. Mae’r tri chymeriad yn byw yn y gwter, ond yn gerddorol maent yn cyrraedd y sêr...

Yn yr ail hanner yn dilyn yr egwyl, bydd y tîm yn canu cadwyn o alawon am gariad a phriodas o bob math - tamaid i godi’r llen ar daith Prif Lwyfan o Briodas Figaro, Mozart yng ngwanwyn 2020.

Daw Llwyfannau Llai OCC ag opera fyw i galon cymunedau Cymru a’r Gororau, drwy deithio i theatrau, neuaddau pentref a lleoliadau cymunedol.

Mae tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu Ar-lein ar theatrfelinfach.cymru.

Mae tocynnau yn £15 i Oedolion, £14 i Bensiynwyr ac Aelodau a £10 i Fyfyrwyr a Phlant.

14/10/2019