Mae Panel Ieuenctid Dewis, wedi cydlynu gan Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, yn banel o bobl ifanc lleol sy’n gyfrifol am ddewis pa bobl ifanc a phrosiectau ieuenctid yng Ngheredigion sy’n derbyn cymorth ariannol drwy ddyrannu Bwrsariaeth Pobl Ifanc Ceredigion a Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae panel ieuenctid ‘Dewis’ wedi cytuno i roi cymorth ariannol i nifer o bobl ifanc a phrosiectau pobl ifanc lleol. Cymorth sydd wedi helpu pobl ifanc cyrraedd eu nod personol a hefyd sicrhau bod nhw’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol gwerth chweil yn lleol.

Mae’r panel ieuenctid yn chwilio am aelodau newydd i eistedd ar y panel. Petai chi’n berson ifanc sydd rhwng 14 - 16 mlwydd oed ac yn byw yng Ngheredigion, all y cyfle yma fod o ddiddordeb i chi. Eleni mi fydd rhaglen y panel ieuenctid yn cynnwys cyfle i gymryd rhan mewn diwrnod hwyl adeg gwyliau’r Pasg a chyfarfodydd a fydd yn sicrhau bod aelodau yn datblygu sgiliau newydd a chael cyfle i gyfarfod ffrindiau newydd.

Dywedodd Ashlie Day, cyn-aelod o Banel Ieuenctid ‘Dewis’ ac sydd bellach yn Weithiwr Ieuenctid cymwys a sesiynol i’r Tîm Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu, “Trwy fod yn aelod o’r panel ieuenctid ‘Dewis’ cefais y cyfle i ddatgan fy marn a hefyd, helpu pobl ifanc eraill. Caniataodd y panel ieuenctid i mi ddweud fy nweud a helpodd fi i fagu hyder a datblygu fy sgiliau cyfathrebu. Helpodd y profiad hwn fi i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a hefyd, i ddathlu eu llwyddiannau.”

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae bod yn aelod o banel Ieuenctid ‘Dewis’ yn gyfle arbennig i bobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd e.e. i wneud penderfyniadau, siarad yn gyhoeddus a dysgu sut i helpu’r gymuned. Rydym yn ddiolchgar iawn i Fythynnod Gwyliau Gorllewin Cymru a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) bod yna gyfle o’r fath i bobl ifanc allu gwneud penderfyniadau sydd mor bwysig drwy banel ieuenctid ‘Dewis’. Mae’r penderfyniadau yma yn cael effaith mawr ar gyfleoedd sydd yn rhoi cefnogaeth ac yn agored i bobl ifanc eraill sydd yn byw yng Ngheredigion.”

I dderbyn fwy o wybodaeth am sut i fod yn aelod o banel ieuenctid ‘Dewis’, cysylltwch gyda Gwion Bowen, Gwion.Bowen@Ceredigion.Gov.UK

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i dudalennau Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar Facebook, Instagram neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

15/03/2022