Mae 2020 yn dod â datblygiadau newydd cyffrous yn Llambed wrth i'r gwaith ar ailddatblygu safle Canolfan Dulais yn y dref gychwyn. Gyda chymorth buddsoddiad Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chyllid Targedu Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, bydd y prosiect yn dod â buddsoddiad o £3.2m i'r dref.

Datgelodd Tai Ceredigion – a brynodd yr adeilad gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Mawrth 2018 – y cynlluniau newydd cyffrous i ddymchwel hen adeiladau'r Llywodraeth ar ddechrau 2019. Cafodd y strwythur presennol ei inswleiddio'n wael ac nid oedd y system wresogi yn addas. Bydd y cynlluniau newydd yn creu unedau busnes ecogyfeillgar modern, yn enwedig ar gyfer busnesau busnesau bach a chanolig, elusennau a sefydliadau sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd gan y ganolfan newydd gyfleuster telegynadledda a fydd yn gallu cael ei logi.

Roedd swyddogion Cyngor Sir Ceredigion wedi cefnogi prosiect Canolfan Dulais trwy annog y datblygiad drwy geisiadau am gyllid. Mae'r cyngor hefyd yn chwarae rôl ymgynghorol ar y prosiect ac yn cynrychioli'r prosiect mewn trafodaethau gyda chyrff ariannu a'r bartneriaeth ranbarthol.

Mae'r contractwyr, TR Jones o Rydaman, wedi ennill y tendr a fe wnaethant gychwyn ar y safle ar 13 Ionawr 2020 i ddymchwel yr adeilad presennol. Bydd y datblygiad hefyd yn dod â gwaith adeiladu pwysig i fusnesau adeiladu lleol o fewn y dref.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn gweld Canolfan Dulais yn flaenoriaeth i'r economi leol a rhanbarthol. Mae'n rhaid i ni greu gofodau modern i fusnesau lleol allu defnyddio ac i dyfu yno. Mae'r sector gofal cymdeithasol yn brin o gapasiti yn yr ardal lle gwelwn alw cynyddol. Rydym yn hyderus y bydd Canolfan Dulais yn gam pwysig tuag at dyfu'r sector.”

Ychwanegodd Steve Jones, Prif Weithredwr Tai Ceredigion: “Mae wedi cymryd llawer o waith caled gan ein tîm i gyrraedd y pwynt lle gall y contractwyr ddechrau ar y safle a'r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Swyddfa Ewropeaidd Cymru a Chyngor Sir Ceredigion am rannu ein gweledigaeth ac am y gefnogaeth i helpu i wireddu'r syniad. Rydym yn edrych ymlaen at rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad a dechrau sgyrsiau gyda darpar denantiaid newydd ar gyfer yr adeilad.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Rwy’n falch iawn bod adeilad o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau cychwynnol a thwf, yn enwedig yn y sector Gofal Cymdeithasol, yn dod i Lambed gyda’r gwaith ar ddechrau. Mae Canolfan Dulais yn ddatblygiad hanfodol bwysig i'r ardal, y mae'r Cyngor yn falch o'i chefnogi.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn: “Mae'n wych bod gwaith wedi dechrau ar y prosiect hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1,530,000 o arian a fydd yn helpu i wella mynediad i gyfleuster cymunedol pwysig, a fydd yn dod â phobl ynghyd, i helpu i fynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol, cefnogi swyddi, darparu cyfleoedd hyfforddi a lleoli mentrau cymdeithasol.

“Rydyn ni am gefnogi busnesau lleol, tyfu ein canol trefi gwych ac rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn cymryd siâp.”

20/01/2020