Lansiodd Amgueddfa Ceredigion gasgliad newydd sbon o anrhegion unigryw a grëwyd gan bedwar arlunydd lleol, sef Becky Knight, Carys Boyle, Felix Cannadam a Ruth Jên Evans, yn ddiweddar.

Mae’r anrhegion arbennig hyn yn ffrwyth prosiect cydweithredol chwe mis o hyd rhwng Amgueddfa Ceredigion a’r pedwar arlunydd, wedi’i ariannu gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol trwy'r Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’r prosiect, sydd wedi’i ysbrydoli gan gasgliad enfawr yr Amgueddfa, yr adeilad Edwardaidd hynod a hanes Ceredigion, yn cefnogi cynaliadwyedd yr Amgueddfa, yn ogystal â dathlu talent arlunwyr lleol.

Meddai Curadur Amgueddfa Ceredigion, Carrie Canham, “Rwyf wrth fy modd gyda’r cynnyrch mae’r arlunwyr talentog hyn wedi creu ar gyfer y siop. Maent wedi llwyddo i gyfleu natur unigryw Amgueddfa Ceredigion a chreu cynlluniau cyfoes a fydd yn siŵr o apelio at ein hymwelwyr.”

Gyda chaniatâd i fynd i bob rhan o’r adeilad, gweithiodd Becky, Carys, Felix a Ruth gyda staff yr Amgueddfa i ddarlunio’r straeon a’r delweddau eiconig sydd ynghudd yng nghasgliad yr Amgueddfa. O hyn, fe wnaethant greu nifer o anrhegion amrywiol sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol ac yn foesegol, ac sydd wedi’u hysbrydoli gan hanes, diwylliant a threftadaeth Ceredigion.

Cafodd Becky, arlunydd tecstilau sy’n byw yn Y Borth, ei denu gan addurn balconi’r Amgueddfa, a oedd, yn ei barn hi, yn un o nodweddion mwyaf amlwg a hynod y Colisëwm, sef yr hen theatr sydd erbyn hyn yn gartref i’r Amgueddfa. Dywedodd Becky, “Bu’n rhaid imi symleiddio’r patrwm cymhleth i greu’r cynllun ro’n i am ei gael. Yna, bûm yn arbrofi gyda’r ffordd roedd y patrwm yn ailadrodd ei hun, cyn penderfynu ar y cynllun terfynol.” Mae Becky’n hoffi creu pethau defnyddiol all fod yn rhan o fywyd bob dydd, fel bod modd ail-fwynhau’r atgof am yr ymweliad â’r Amgueddfa wrth sychu’r llestri gyda’i thywel sychu llestri trawiadol.

Cafodd Carys, Seramegydd o Aberystwyth, ei hysbrydoli gan adran Fordeithiol yr Amgueddfa. Daliwyd ei llygad gan y cerrig gemwaith lapidari llachar, llyfn, ac mae’r straeon cyfareddol am y cerrig hyn yn cyrraedd arfordir Ceredigion fel cerrig balast llongau’r ddeunawfed ganrif yn cyfoethogi cynllun ei dyddlyfr teithio a llyfr nodiadau.

Cafodd Felix, ffotograffydd a cherddor sy’n byw yn Y Borth, ei swyno gan ddau ddarlun bach o’r tu mewn a’r tu allan i’r Colisëwm. Mae’r delweddau’n llawn cymeriad ac yn rhoi cipolwg inni o Aberystwyth yn y dyddiau a fu. Gyda’r delweddau hyn, creodd Felix bâr o fagnetau pren aml-haenog, gyda thorluniau’n dangos mannau sydd wedi hen ddiflannu.

Daeth Ruth, arlunydd sy’n enedigol o Aberystwyth, ar draws casgliad o blatiau argraffu posteri o’r 1940au/50au ynghudd mewn bocs yn un o storfeydd arteffactau’r Amgueddfa. Yn wreiddiol, byddai’r ddelwedd wedi hysbysebu gwyliau haf a dreuliwyd yn Aberystwyth, ond trwy eu hargraffu ar grysau-t a’u cyfuno â’r geiriau ‘Lawr ar lan y môr’, rhoddodd Ruth fywyd newydd iddyn nhw.

Mae’r cynnyrch newydd ar werth ar hyn o bryd yn siop anrhegion Amgueddfa Ceredigion a’r Ganolfan Groeso. Mae’r eitemau’n rhai argraffiad cyfyngedig a disgwylir iddynt werthu’n gyflym iawn.

31/05/2018