Bydd Noson Lawen yn cael ei gynnal yn Theatr Felinfach ar 16 Tachwedd am 7:30yh. Bydd y noson o ddiddanu yn cael ei arwain gan Hywel (Gas) Lloyd ac Arwel (Cwmcoedog) Davies.

Bydd amryw of berfformwyr lleol yn diddanu’r gynulleidfa, gan gynnwys:
• Parti canu Hoffgan
• Guto Jones yn perfformio comedi stand-up.
• Sara Mair a Carys Haf. Mae Sara a Carys yn adnabyddus am ganu ym mhanto Iaith Gymraeg y Theatr.
• Ysgol Berfformio Theatr Felinfach yn perfformio dwy gan o’r sioe Syrffio ar y Sgwâr.
• Carys Griffiths Jones, enillydd cystadleuaeth mezzo soprano'r Eisteddfod Genedlaethol
• CFFI Ceredigion yn perfformio eitemau o Eisteddfod CFFI Ceredigion

Bydd Merched y Wawr Felinfach hefyd yn perfformio eitem yn ogystal â Sefydliad y Merched Dihewyd.

Dywedodd Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata Theatr Felinfach, “Bydd ystod eang o dalent lleol yn perfformio yn ein Noson Lawen. Mae rhywbeth at flas pawb, felly dewch i’r Theatr am noson lawen iawn.”

Mae’r Noson Lawen yn dechrau am 7:30yh. Mae tocynnau yn costio £10 / £9 / £8. Ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01545 470 697 i gadw eich lle.

12/11/2018