Ar Nos Wener, Chwefror 15 am 8yh, cynhelir noson acwstig yn Theatr Felinfach yng nghwmni Lowri Evans, Lee Mason a Mari Elen Mathias.

Mae Bob Harris (BBC Radio 2) wedi disgrifio Lowri a Lee fel 'Un o'i hoff artistiaid’. Mae gan Lowri lais sy'n llawn o bŵer emosiynol. Mae ei chaneuon yn arddangos palet eang o liwiau cerddorol sy'n cynnwys cerddoriaeth Americana, Gwerin, Blŵs a chanu gwlad. Mae’r cyfan wedi eu gwau'n hyfryd gyda'i gilydd trwy ei greddf gynhenid at gerddoriaeth a’i gallu i’w trosglwyddo’n deimladwy.

Mae’r gallu i Lee chwarae’r gitâr yn wych a chreu harmonïau wedi bod yn rhan annatod o gerddoriaeth Lowri o'r cychwyn. Gyda'i gilydd maent wedi rhyddhau saith albwm, wedi teithio i'r UDA, wedi perfformio sesiwn ar sioe Bob Harris ar BBC Radio 2, yn cael eu clywed yn aml ar raglenni radio’r BBC ac yn perfformio'n rheolaidd mewn lleoliadau ledled yn y DU. Yn ogystal â hyn, maent wedi perfformio mewn digwyddiadau mawr fel Sesiwn Fawr, Cambridge Folk, Underneath the Stars, Gŵyl Wychwood, Gŵyl Greenman a Gŵyl y Gelli.

Cantores a chyfansoddwraig 18 oed o Dalgarreg yw Mari Elen Mathias ac mae hi’n astudio BA Perfformio yng Nghaerdydd. Mae hi’n perfformio cerddoriaeth Gwerin acwstig Cymraeg yn ei ffordd unigryw ei hun. Mae Mari wedi bod yn aelod o’r band Raffdam sydd wedi perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau yn ogystal ag ar y teledu a’r radio.

Mae tocynnau ar gael am £10 o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ar-lein ar theatrfelinfach.cymru. Dim ond nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly peidiwch ag oedi. 

06/02/2019