Rydym wedi dechrau gweld cynnydd yn nifer yr achosion COVID-19 yng Ngheredigion a ledled Cymru dros y dyddiau diwethaf. Mae’r amrywiolyn Delta wedi’i ganfod yng Ngheredigion; amrywiolyn gwahanol sy’n achosi ystod ehangach o symptomau nag o’r blaen.

Rydym yn dod yn fwyfwy pryderus ynglŷn â’r cynnydd hwn; y gyfradd gyfredol fesul 100 mil o'r boblogaeth yw 33 ac mae hyn yn debygol o gynyddu ymhellach dros y dyddiau nesaf. Mae hwn yn gynnydd sylweddol, o ystyried roedd y gyfradd fesul 100 mil o'r boblogaeth mor isel â 2.8 fesul 100 mil ddechrau mis Mehefin.

Mae'r amrywiolyn newydd o COVID-19 ym mhob rhan o Gymru. Mae'n lledaenu'n gyflymach ac mae angen i ni fod yn fwy gwyliadwrus a sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau diweddaraf sydd fel a ganlyn:

• Dim ond aelodau o'ch aelwyd estynedig all ddod i mewn i'ch cartref.
• Mae masgiau wyneb yn parhau i fod yn orfodol yn y mannau cyhoeddus dan do sydd ar agor (yn amodol ar rai eithriadau ac esemptiadau), ac ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis.
• Dylai pobl geisio gweithio gartref os yw hynny’n bosibl.
• Dylai pobl gadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys yn yr awyr agored, a pheidio â chymysgu â gormod o wahanol grwpiau o bobl.
• Dylai pobl olchi eu dwylo’n rheolaidd a dilyn cyngor arall ar hylendid.
• Rhaid i bobl hunanynysu pan fydd gwasanaeth Profi, Olrhain, a Diogelu GIG Cymru yn dweud wrthynt am wneud hynny.
• Trefnwch brawf os ydych chi’n profi unrhyw un o’r symptomau.

Mae symptomau amrywiolyn Delta’r coronafeirws yn cynnwys cur pen, ac yna dolur gwddf, trwyn yn rhedeg a thwymyn. Rydym yn annog pobl sy'n teimlo'n sâl gyda’g UNRHYW un o’r symptomau yma i archebu prawf, bod yn fwy gofalus, cadw pellter cymdeithasol, a chynnal hylendid dwylo da.

Gan fod pawb yn gwneud y gorau o’r haf gan fod y cyfyngiadau wedi llacio tipyn ers dechrau’r flwyddyn, mae’n dal yn hanfodol i bawb gofio ein bod yn parhau i frwydro yn erbyn y feirws hwn ac yn ceisio atal trydedd don. Mae cyfyngu ar eich cysylltiadau yn hanfodol er mwyn cadw cyfradd yr heintiau i lawr, a dyma sut y byddwn yn amddiffyn pob un ohonom yn y pen draw.

Yng Ngheredigion, mae dros 68% wedi derbyn y brechiad cyntaf ac mae dros 44% bellach wedi derbyn yr ail frechiad. Mae dos cyntaf o’r brechlyn nawr ar gael i bawb dros 18 oed. Mae'r ail frechlyn yn gwella'ch imiwnedd yn sylweddol, felly mae'n bwysig eich bod chi'n cael eich ail ddos i gwblhau eich cwrs brechu.

Bydd cael dau ddos y brechlyn a dilyn canllawiau COVID-19 yn ein diogelu ni i gyd yn erbyn yr amrywiolyn newydd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach yn cynnal clinigau galw heibio ar gyfer dos cyntaf ac ail ddos y brechlyn o ddydd Llun 21 Mehefin tan ddydd Sul 27 Mehefin. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

23/06/2021