Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal eleni rhwng 21 a 26 Mehefin.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dangos ei gefnogaeth drwy hedfan baner y Lluoedd Arfog y tu allan i brif swyddfeydd y Cyngor yn Aberystwyth ac Aberaeron.

Cynhelir y rhan fwyaf o ddigwyddiadau a gweithgareddau eleni yn rhithiol a byddant yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae un cyn-filwr yn ymgymryd â her er mwyn codi ymwybyddiaeth o elusen cyn-filwyr Woody's Lodge, sef yr elusen y mae Pencampwr y Lluoedd Arfog a'r Cadeirydd y Cynghorydd Paul Hinge wedi dewis ei chefnogi eleni.

Bydd Steve Owen, cyn-filwr sydd wedi colli ei goes, yn cerdded 85 milltir ar draws Ceredigion, Sir Gar a Sir Benfro i godi ymwybyddiaeth o'r elusen ar gyfer cyn-filwyr, sef Woody's Lodge, yn ystod yr wythnos. Bydd Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog Hayley Edwards yn ymuno â Steve i gerdded y milltiroedd sy'n weddill ar ei ddiwrnod olaf. Yna caiff ei groesawu'n ôl gan Gynghorydd a Chadeirydd Pencampwr y Lluoedd Arfog, Paul Hinge wrth iddo orffen ei daith gerdded. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am daith gerdded Steve ar dudalen Facebook Woody's Lodge. 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge: “Mae Steve yn foi gwych, yn frodor o Geredigion, ac mae’r daith gerdded 85 milltir hon yn dipyn o gamp iddo ef yn bersonol ar ôl iddo golli coes yn Afghanistan. Mae Woody’s Lodge yn elusen sy’n ceisio darparu amrywiaeth helaeth o wasanaethau i gyn-filwyr a’u teuluoedd, milwyr, a’r rheini sy’n gweithio yn ein gwasanaethau golau glas, y mae pob un ohonynt yn dod i gysylltiad â rhai digwyddiadau ofnadwy a thrasig. Gan fy mod yn gyn-filwr fy hun, roeddwn i eisiau cefnogi her Steve a helpu i hyrwyddo’r gwaith rhagorol y mae Woody’s Lodge yn ei wneud trwy gydol y flwyddyn.”

Hayley Edwards yw Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer Ceredigion, Sir Gâr, a Sir Benfro. Dywedodd: “Pan ddywedodd Steve wrthyf am ei daith gerdded 85 milltir dros Wythnos y Lluoedd Arfog i godi ymwybyddiaeth am Woody's Lodge, cefais fy syfrdanu'n llwyr gan ei ymroddiad, ei ymrwymiad a'i ddewrder i ymgymryd â’r fath gamp! Mae Woody’s Lodge yn achos teilwng iawn ac yn gwneud gwaith rhagorol i Gymuned y Lluoedd Arfog a’r gymuned Golau Glas. Y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw cerdded gydag ef ar un o’r dyddiau a dangos fy nghefnogaeth. Rwyf ond yn gobeithio y gallaf ddal i fyny gydag ef!”

Darllenwch mwy am yr hyn sy’n digwydd ledled y DU i ddangos cefnogaeth i Wythnos y Lluoedd Arfog ar wefan Armed Forces Day.

18/06/2021