Gofynnwyd i nifer bach o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
Rhaid i bob cyswllt a gadarnhawyd o'r achos hyn aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Bydd y disgyblion yn cael eu haddysgu o bell am y cyfnod yma.
Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi'u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond nifer fach o ddisgyblion sy’n gorfod hunan-ynysu. Mae'r Ysgol wedi cysylltu â phob un o’r rhieni yma a byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Ceredigion.
Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Gallwch wneud cais am brawf ar-lein yma neu trwy ffonio 119.
Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.
23/11/2020