Bydd newidiadau i wasanaethau bws lleol yng Ngheredigion o ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023 ymlaen.

Mae’r tendrau a dderbyniwyd yn rhan o broses gaffael ar gyfer gweithredu sawl gwasanaeth wedi dangos cynnydd sylweddol mewn costau. Mae hyn wedi arwain at ofyn am gynnydd sylweddol mewn lefelau cymhorthdal ​​ar adeg pan fo cyllid cyhoeddus dan bwysau aruthrol. Mae’r costau uwch yn adlewyrchu’r heriau penodol sy’n effeithio ar y diwydiant bysiau ar hyn o bryd, sy’n cynnwys costau gweithredu sylweddol uwch, diffyg gyrwyr cymwys ar gael, ansicrwydd ynghylch dulliau ariannu yn y dyfodol yn ogystal â gostyngiad yn nifer y teithwyr a newid mewn ymddygiad teithio.

Mae nifer y teithwyr bysiau wedi bod yn gostwng ledled Cymru ac wedi haneru i bob pwrpas yn y cyfnod rhwng 1982, lle cafwyd 181 miliwn o siwrneiau gan deithwyr, a 2019/20 lle cafwyd 91 miliwn o siwrneiau gan deithwyr. Mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar hyn yn sylweddol, a gwelwyd gostyngiad i 26 miliwn o siwrneiau gan deithwyr yn 2020/21, sydd wedi cael effaith bellach ar hyfywedd gwasanaethau bysiau lleol.

Bydd gwasanaethau 22T (Aberystwyth-Pontarfynach), 27T (Penrhyncoch-Penbontrhydybeddau) a T29 (Cylch Tregaron), sy’n wasanaethau sy’n ymateb i’r galw, yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2022. Mae hyn oherwydd y costau sylweddol sy’n gysylltiedig â’u darparu a’r lefel isel iawn sy’n eu defnyddio, sy’n cyfateb i lefelau anhyfyw o gymhorthdal ​​cyhoeddus fesul siwrnai teithiwr.

Bydd newidiadau i’r amserlenni ar gyfer gwasanaethau a gellir gweld yma  525 (Aberystwyth-Ponterwyd), 526 (Aberystwyth-Penrhyncoch) a 585 (Aberystwyth-Tregaron-Llanbedr Pont Steffan). Mae’r amserlenni ar gyfer y gwasanaethau hyn, yn amodol ar gael eu cyflwyno gan y gweithredwyr a’u cymeradwyo gan y Comisiynydd Traffig. Mae’r amserlenni hyn yn seiliedig ar gynigion a gyflwynwyd gan y gweithredwyr bysiau lleol ac yn adlewyrchu’r hyn y gellir ei gyflawni’n weithredol gyda’r adnoddau sydd ar gael, o ran bysiau a gyrwyr, ar hyn o bryd.

Bydd gwasanaethau T21 (Aberystwyth-Llanafan-Tregaron) a 552 Cardi Bach (Ceinewydd-Aberteifi) yn parhau fel y maent ar hyn o bryd.

Mae’r holl gontractau hyn wedi’u dyfarnu ar sail 6 mis er mwyn caniatáu adolygiad ehangach.

Y Cynghorydd Keith Henson yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i’r cwmnïau bysiau lleol am eu hymgysylltiad parhaus yn yr hyn sy’n amgylchedd gweithredu heriol iawn. Rydym yn parhau i weithio gyda hwy a rhanddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, gan geisio atebion posibl a ffordd ymlaen. Mae gwasanaethau a rhwydweithiau bysiau yn ddeinamig ac yn destun newid. Mae newidiadau pellach yn debygol gan mai’r realiti yw, yn ogystal â phrinder adnoddau, mae swm y cymhorthdal ​​sydd ei angen nawr i ddarparu’r gwasanaethau yn anfforddiadwy, yn anghyfiawnadwy ac yn anghynaladwy yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.”

02/12/2022