Mae’r mesurau coronafeirws sydd ar waith yn Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion yn cael eu hadolygu yn barhaus ers iddynt ailagor yn haf 2020.
Rhoddodd yr adolygiad diweddaraf ystyriaeth i’r ffaith fod y safleoedd yn llai prysur dros gyfnod y gaeaf ac, o ganlyniad, bydd newidiadau’n cael eu rhoi ar waith ar 1 Tachwedd 2021. Mae’r newidiadau fel a ganlyn:
Bydd y system odrif/eilrif ar gyfer rhifau cerbydau yn dod i ben a bydd yr oriau agor yn dychwelyd i fel yr oeddent cyn cyfnod y coronafeirws.
Oriau agor:
Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi
Dydd Llun i Ddydd Gwener 09:00-17:00
Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gŵyl y Banc 10:00-15:00
Llanarth
Dydd Mercher, Dydd Sadwrn a Dydd Sul 10:00-17:00
Bydd y mesurau eraill yn parhau mewn grym ac mae trigolion yn cael eu hatgoffa i barchu staff y safle gan ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle. Bydd holl fesurau coronafeirws y Safleoedd Gwastraff Cartref yn parhau i gael eu hadolygu a gellir eu newid.
Mae’r Safleoedd Gwastraff Cartref yng Ngheredigion yn cael eu darparu ar gyfer defnydd trigolion Ceredigion yn unig. Atgoffir holl ddefnyddwyr y safle fod posibilrwydd y bydd staff yn gofyn iddynt ddangos prawf o’u cyfeiriad.
Ceir mwy o wybodaeth a diweddariadau pellach ar wefan y Cyngor.
25/10/2021