Fe gymeradwyodd cynghorwyr yng Ngheredigion adolygiad o orsafoedd pleidleisio yn y sir ar 23 Ionawr. Mae'r adolygiad yn gweld tair gorsaf bleidleisio yn cael eu huno â gorsafoedd pleidleisio cyfagos.

Bydd y gorsafoedd pleidleisio yng Nghwmystwyth, Blaenpennal a Chapel Tyngwndwn yn Nhalsarn yn uno â gorsafoedd cyfagos.

Eifion Evans yw'r Swyddog Canlyniadau Gweithredol. Dywedodd: “Fe wnaethon ni gynnal yr adolygiad i wneud yn siŵr bod gorsafoedd pleidleisio yng Ngheredigion yn addas at ein dibenion ac yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosib.

“Fe wnaethom ymweld â phob gorsaf bleidleisio a gynigiwyd yn yr adolygiad, ac rwy'n hyderus mai'r lleoliadau yw'r rhai mwyaf priodol posibl i bleidleiswyr a staff etholiadol.”

Bydd nifer o orsafoedd pleidleisio yn newid lleoliad. Y rhain yw:

  • Ward Canol Aberystwyth – Gorsaf bleidleisio i symud o adeilad y Band Arian, Coedlan y Parc i Fyddin yr Iachawdwriaeth, Ffordd Alexandra.
  • Ward Rheidol Aberystwyth - Gorsaf bleidleisio i symud o adeilad y Band Arian, Coedlan y Parc i Dŷ’r Harbwr, Y Lanfa.
  • Gorsaf bleidleisio i symud o'r hen ysgol yn Cross Inn ger Llanon, i'r hen ysgol, Pennant ger Llanon.
  • Caiff y Feithrinfa yn Ysgol Gynradd Gymunedol Comins-coch ei defnyddio yn hytrach na'r ysgol.
  • Gorsaf bleidleisio i symud o Ysgol Trewen i Festri Capel Bryngwyn.
  • Gorsaf bleidleisio i symud o Caffi Sali Mali i Festri Capel Bronant.

Bydd gorsaf bleidleisio arall yn symud o Festri Capel Pisgah i Neuadd Talgarreg yn amodol ar gymeradwyaeth Pwyllgor y Neuadd. Bydd yr orsaf bleidleisio yn aros yn festri'r capel os nad yw Pwyllgor y Neuadd yn cytuno.

24/01/2020