Mae newid hinsawdd a chodiadau lefel y môr yn debygol o greu newidiadau i draeth Tanybwlch. Gwahoddir trigolion Ceredigion ac ymwelwyr i rannu eu gwybodaeth leol am yr ardal o gwmpas y traeth gyda Thîm Cadwraeth y cyngor mewn nifer o ddigwyddiadau o amgylch Aberystwyth yr haf hwn.

Mae'r tîm cadwraeth yn cynnal adolygiad ar sefydlogrwydd y gefnen graean ac amddiffynfeydd môr y traeth. Mae’r adolygiad wedi cael ei ariannu gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Fel rhan o'r adolygiad, gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i edrych ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn.

Mae rhywfaint o Danybwlch yn rhan o Warchodfa Natur Leol Pen Dinas a Thanybwlch sydd wedi ei leoli ger Penparcau. Mae llwybr arfordir Cymru yn rhedeg ar hyd brig y gefnen graean sy'n rhan o'r traeth. Mae'r gefnen yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Bydd y Tîm Cadwraeth yn y digwyddiadau canlynol i wrando ar y cyhoedd a siarad â hwy:
• Sioe Aberystwyth ar 08 Mehefin
• Carnifal Penparcau ar 29 Mehefin o 1yp ymlaen
• Canolfan Gymunedol Penparcau ar 06 Gorffennaf, o 1yp i 4yp 
• Gorsaf dân Aberystwyth, Trefechan ar 09 Gorffennaf o 11yb i 2yp
• Gŵyl Môr i’r Tir ar 11 Awst
• Bydd digwyddiadau eraill ar draeth Tanybwlch. Mae’r dyddiadau i'w cadarnhau. Dilynwch dudalennau Facebook a Twitter y cyngor am y diweddaraf.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio ac ef yw Hyrwyddwr y cyngor dros Fioamrywiaeth. Dywedodd, “Mae Traeth Tanybwlch yn le poblogaidd i lawer o bobl; boed hynny'n ymwelwyr yn cerdded llwybr yr arfordir, preswylwyr yn mynd â'u cŵn am dro bob dydd neu unrhyw un sy'n dymuno mwynhau’r harddwch naturiol y warchodfa. Mae'n bwysig bod trigolion lleol a defnyddwyr y traeth yn ymwybodol o'r adolygiad hwn a'r canlyniadau posibl. Felly dewch draw i un o'r digwyddiadau ymgysylltu. Bydd eich llais a'ch syniadau ynghyd â'r holl wybodaeth a gesglir yn dylanwadu ar unrhyw gynigion a allai gael eu gwneud ar gyfer yr ardal.”

Os na allwch fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau ond hoffech rannu eich barn, cysylltwch â'r Tîm Cadwraeth ar 01545 572142, e-bost ecology@ceredigion.gov.uk

28/05/2019