Adeiladodd fyfyrwyr sy’n mynychu Cwrs Rheoli Cefn Gwlad ym Mhrifysgol Aberystwyth, ddwy bont newydd yn lle’r hen strwythurau ar lwybr poblogaidd ar lan yr afon ger Morrisons yn Aberystwyth.

Yng ngweithdy’r coleg, paratowyd y pren, roedd rhywfaint o’r pren wedi’i dyfu a’i felino ar Fferm y Brifysgol, ar gyfer y pontydd ar ffurf citiau. Yna adeiladwyd y pontydd ar y safle a hynny ar draws dau gwlfert ger afon Rheidol.

Trwy’r Prosiect Sgiliau Ystadau Ymarferol wnaeth myfyrwyr ennill profiad ymhob rhan o’r broses o adeiladu pontydd, o asesu’r safle i’r prosiect gorffenedig. Hefyd, yn rhan o’r prosiect, gosodwyd giât mochyn yng nghoedwig Penglais a wnaed o bren a holltwyd o gastanwydden yn y Warchodfa Natur Leol, ac atgyweirio rhai o’r grisiau yno.

Dyma’r flwyddyn olaf y bydd y Prosiect Sgiliau Ystadau Ymarferol yn cael ei gynnal. Dyma ddiwedd 20 mlynedd o bartneriaeth rhwng y Brifysgol ac Adran Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ceredigion. Dros y blynyddoedd, rhoddwyd cyfleoedd i’r myfyrwyr gyfrannu at wella llwybrau troed, llwybrau ceffylau a mynediad i’r cyhoedd mewn amryw o gymunedau.

Dywedodd Eifion Jones, Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus, “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn hynod ddiolchgar am y gwaith sydd wedi ei wneud ac yn dymuno diolch i’r myfyrwyr a thiwtoriaid y cwrs am eu cyfraniad tuag at gynnal a chadw’r gwarchodfeydd. Mae’r ddwy bont droed newydd yn glod iddynt a bydd y pontydd hyn yn cyfrannu i gwasanaethu’r gymuned yn Aberystwyth a’r ardal gyfagos am flynyddoedd i ddod.”

Ariannwyd y cyllid ar gyfer y deunyddiau gan Adran Arfordir a Chefn Gwlad drwy Grant Datblygu yr Amgylchedd a Cynaliadwy Cynulliad Cymru a gan Brifysgol Aberystwyth. Roedd Prifysgol Aberystwyth yn ariannu'r holl waith a oedd yn gysylltiedig â'r gât, gan gynnwys torri coed castanwydden felys gan lawfeddyg coed.

 

17/04/2019