Wrth i’r dydd ymestyn, yr haul wenu a’r cyfyngiadau lacio, mae’n braf gweld cynifer o fusnesau Ceredigion yn ailagor a phobl yn mwynhau ein harfordir a’n cefn gwlad hyfryd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys i atgoffa trigolion ac ymwelwyr fod angen inni gofio’r pwyntiau pwysig er mwyn cadw’r sir ar agor a’r cyfraddau Covid yn isel.

Mae cadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb a golchi dwylo’n aml yn hanfodol er mwyn mwynhau manteision Ceredigion mewn ffordd gyfrifol a chadw’r sir yn saff.

Dros benwythnos y Pasg denwyd llawer o bobl i sawl man yng Ngheredigion. Rydym yn diolch i’r rheiny a gadwodd at y rheolau ond yn siomedig gydag ambell un na wnaeth hynny. Wrth i’r tymor twristiaeth ddechrau ac wrth i fannau lletygarwch ac atyniadau awyr agored agor ar 26 Ebrill, ac yna gŵyl banc Calan Mai toc wedi hynny, gofynnir i fusnesau ac unigolion fod yn ofalus wrth fynd o gwmpas eu pethau.

Os oes busnesau sydd ddim yn siŵr o’u cyfrifoldebau, gofynnir iddyn nhw fwrw golwg ar y canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru:
https://llyw.cymru/cymryd-pob-mesur-rhesymol-i-leihaur-risg-o-ddod-i-gysylltiad-ar-coronafeirws-mewn-gweithleoedd.

Gall busnesau lawrlwytho canllawiau a phosteri gwybodaeth i’r cyhoedd o wefan y Cyngor: http://www.ceredigion.gov.uk/busnes/covid-19-cefnogi-economi-ceredigion/.

Rydym oll yn edrych ymlaen at wneud y mwyaf o’n sir hyfryd ac at gefnogi ein busnesau lleol rhagorol, felly dewch inni wneud hynny yn ofalus ac yn y ffordd gywir.

I riportio achos posib o dorri mesurau Covid-19, ewch i wefan Heddlu Dyfed-Powys: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/rhoi-gwybod-i-ni/rhoi-gwybod-i-ni/c19/v7/dweud-wrthon-ni-am-drosedd-bosibl-yn-erbyn-y-mesurau-coronafeirws/

 

 

23/04/2021