Ar 2 Mawrth bydd Amgueddfa Ceredigion yn cael y pleser o gynnal y gorau o gerddoriaeth Cymru i ddathlu penwythnos Gŵyl Ddewi. Bydd Llwybr Llaethog, band Cymraeg arbrofol sydd wedi bod yn creu synau dub gan ddefnyddio pob math o dechnoleg ers 1985, yn ymuno â’r bît-bocsiwr dwyieithog a'r artist ‘lŵpio byw’, Mr Phormula.

Sefydlwyd Llwybr Llaethog ym Mhlaenau Ffestiniog yn 1985 gan John Griffiths a Kevs Ford ac mae'r band yn cymysgu amrywiaeth o genres cerddorol megis rap, dub, reggae, hip-hop, a punk. Dylanwadwyd yn gryf ar y ddau gan y sîn reggae a punk a oedd yn sgubo ar draws y Deyrnas Unedig yn y ‘70au.

Ar ôl nifer o flynyddoedd yn teithio gogledd Ewrop â’r band punk/ska ‘The Managing Directors’, daeth trobwynt yn 1984 pan oedd breg-ddawnsio a synau DJ Red Alert wedi cael argraff ar John tra oedd ar wyliau yn Efrog Newydd. Cafodd Llwybr Llaethog eu hyrwyddo’n gyson gan DJ John Peel ac aethant ymlaen i fod yn adnabyddus i’w synau nodedig a oedd yn cynnwys crafiadau ar y trofwrdd, samplau sain, hip-hop a chynhyrchu ‘torri a phastio’.

Dywedodd y band Llwybr Llaethog, "Rydyn ni mor falch o gael y cyfle i chwarae yn Amgueddfa Ceredigion. Bydd cyd-chwarae â Mr Phormula eto ac ymwneud â DJ Badly yn sicr o’i gwneud hi’n noson i'w chofio."

Mae gyrfa Mr Phormula mor amrywiol â thirwedd Cymru lle mae wedi’i wreiddio, ac mae ei berfformiadau ysbrydoledig a’i gyfansoddiadau lleisiol wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol iddo fel bît-bocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd.

Mae doniau dwyieithog Mr Phormula yn unigryw ac mae hyn, ynghyd â’i rythmau slic, llinellau bas cymhellol a’i ddawn leisiol, wedi datblygu cefnogwyr ymroddedig ym mhob rhan o Gymru, y DU ac UDA.

Mae o wedi gweithio gyda rhai o sêr y byd hip hop gan gynnwys; The Pharcyde, Jungle Brothers, Boy better Know, Plan B, Professor Green a Krs-One. Mae eu gwaith newydd yn parhau i ddatblygu’r sin hip-hop yng Nghymru yn ogystal â hyrwyddo’r genre dwyieithog deinamig hwn dramor.

Mae’r drysau'n agor am 7:30pm. Tocynnau ‘cyntaf i’r felin’ ar gael o flaen llaw am £10; ar y drws am £12. Am ragor o wybodaeth ac i ddarganfod beth arall sydd ymlaen yn yr Amgueddfa, dilynwch Amgueddfa Ceredigon ar Facebook, ewch i www.ceredigionmuseum.wales/hafan/ neu cysylltwch â 01970 633 088.

 

19/02/2019