O ddydd Llun 07 Rhagfyr 2020 ymlaen, bydd taliadau heb arian parod yn cael eu cyflwyno ym meysydd parcio talu ac arddangos canlynol y Cyngor Sir yn Aberteifi: • Rhodfa’r Felin • Sgwâr Cae Glas • Mwldan • Stryd y Cei Ni chodir tâl yn Rhes Gloster ar hyn o bryd.

Tra bod y ganolfan brofi symudol yn aros ym Maes y Ffair, ni fydd y maes parcio hwn ar gael ar gyfer defnydd cyffredinol.

Wrth i lefel cyfraddau heintio COVID-19 ostwng yn sylweddol yn Aberteifi, mae bellach yn briodol cyflwyno taliadau heb arian parod yno, fel sydd eisoes wedi digwydd mewn mannau eraill yng Ngheredigion.

Darperir parcio am ddim ddydd Sadwrn 05, 12 a 19 Rhagfyr 2020 ym mhob maes parcio talu ac arddangos y Cyngor yn y cyfnod cyn y Nadolig.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

07/12/2020