Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i fynd i'r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol wedi cael eu hymestyn am dair blynedd arall mewn tri chanol tref yng Ngheredigion.

Yn ystod cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd yn rhithiol ar 10 Medi 2020, cadarnhawyd y bydd y cyfyngiadau, sy’n gwahardd yfed alcohol mewn ardaloedd dynodedig mewn canol trefi, yn parhau tan 2023, er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r trefi dan sylw yn cynnwys Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

Cyflwynwyd y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus cyfredol yn 2017 ac mae disgwyl iddynt ddod i ben ym mis Hydref eleni, ac ers eu cyflwyno maent wedi cael effaith gadarnhaol ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a bygythiol sy’n gysylltiedig ag alcohol. O ganlyniad, cadarnhawyd y bydd y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn cael eu hadnewyddu ac y byddant yn weithredol rhwng 20 Hydref 2020 tan 19 Hydref 2023, a bydd hysbysiadau cyhoeddus yn cael eu harddangos i roi gwybod i’r cyhoedd am yr estyniad. Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn golygu ei bod yn drosedd os na fydd unigolyn yn cydymffurfio â chais gan Swyddog yr Heddlu neu Swyddog awdurdodedig i beidio ag yfed alcohol, neu os yw’n gwrthod ildio’r alcohol i’r swyddog yn yr ardal ddynodedig.

Mae Aberystwyth ac Aberteifi hefyd yn rhan o’r Parthau Diogel yng Ngheredigion lle mae busnesau yn gweini bwyd a diodydd y tu allan o ganlyniad i gyfyngiadau cyfredol Covid-19. Mae cydsyniad penodol wedi cael ei roi i rai safleoedd trwyddedig weini alcohol y tu allan yn yr ardal benodol. Mae hyn yn golygu y gellir yfed alcohol yn gyfreithlon yn yr ardal lle rhoddir cydsyniad, ond na ellir gadael yr ardal honno gyda diod gan y byddent yn ddarostyngedig i orfodaeth yn unol â’r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Mae ein trefi yn fannau croesawgar, ffyniannus a diogel ar gyfer pobl o bob oed a chefndir. Bydd ymestyn y Gorchymyn Diogelu’r Cyhoedd yn galluogi swyddogion i reoli achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud ag alcohol, trosedd ac aflonyddu os byddant yn codi yn yr ardaloedd cyhoeddus hyn. Rydym yn falch o’r gwaith gwych sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i sicrhau bod trefi Ceredigion yn lleoliadau diogel ac atyniadol.”

Gellir gweld y gorchmynion a’r mapiau cysylltiedig ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

11/09/2020