Mae llythyr a dderbyniwyd gan Lucie Medhurst, merch wyth mlwydd oed, wedi arwain at gamau gweithredu cadarnhaol i fynd i’r afael â baw cŵn mewn llecyn hardd lleol. Ysgrifennodd Lucie, sy’n dod o Benrhyn-coch, lythyr o’r galon i Gyngor Sir Ceredigion yn mynegi ei phryder am faint y broblem yng Nghoedwig Gogerddan gerllaw.

Ysgrifennodd Lucie, ‘Rwyf wedi canfod bod llawer o bobl nad ydynt yn glanhau ar ôl eu cŵn yng Nghoedwig Gogerddan, ond mae rhai pobl yn casglu’r baw ond yn ei adael ar y llwybr oherwydd nad oes biniau ar gael.’

Cysylltodd y Cyngor â Chyfoeth Naturiol Cymru, sy’n rheoli’r safle, i weld beth y gellid ei wneud i helpu i wella’r sefyllfa. Yn sgil hyn, mae arwyddion newydd wedi cael eu gosod yn y goedwig sydd wedi’u hanelu at berchnogion cŵn ac sy’n hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a chyfrifol.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Amgylcheddol, “Yn anffodus mae baw cŵn yn broblem sy’n gwaethygu. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn erlyn perchnogion cŵn nad ydynt yn glanhau ar ôl eu cŵn, os darperir digon o dystiolaeth. Rhaid canmol y ferch wyth oed am achub y blaen a neilltuo amser i ysgrifennu llythyr at y Cyngor am fater y mae hi’n teimlo’n gryf iawn amdano. Mae gweithred o’r fath yn cefnogi ethos ‘Caru Ceredigion’; sef y gallwn ni i gyd ysbrydoli a mabwysiadu ymddygiad ac agwedd cadarnhaol. Gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar ein hamgylchedd lleol.”

Mae’r arwydd newydd ar y ffordd i mewn i Goedwig Gogerddan o gyfeiriad Bow Street yn atgoffa pobl i lanhau ar ôl eu cŵn trwy roi’r baw mewn bagiau a’i gymryd oddi ar y safle.

Dywedodd Jim Ralph, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru, “Rydym yn falch o ofalu am safle megis Coedwig Gogerddan sy’n helpu i ddenu mwy o bobl i’r awyr agored ac i fwynhau harddwch yr amgylchedd lleol.”

“Mae’n braf gweld pobl ifanc yn teimlo’n frwdfrydig am y lle arbennig hwn ac yn ein helpu ni i ofalu amdano fel y gall mwy o bobl ddod i fwynhau’r goedwig. Rydym yn hapus i helpu er mwyn annog pobl i lanhau ar ôl eu cŵn.”

10/01/2019