Gyda’r Gaeaf yn agosáu, mae’r meini prawf sy’n cael ei ddefnyddio i benderfynu pa ffyrdd yng Ngheredigion yn cael eu trîn â halen pan ceir rhagolygon o amodau rhewllyd neu eira wedi cael ei newid i adlewyrchu effaith uchder ar dymheredd wyneb ffyrdd. Mae’r datblygiad yma yn dilyn penderfyniad Cabinet ar 04 Medi 2018.

Bydd uchder nawr yn cael ei adio tuag at y broses asesu ehangach sy’n penderfynu pa ffyrdd yng Ngheredigion sy’n cael eu trîn.

Bydd y meini prawf yn golygu bod mwy o ystyriaeth yn cael ei roi i ffyrdd o uchder uwch yn y sir. Mae angen ystyriaeth bellach ar gyfer graeanu ffyrdd uwch gan gall tymheredd awyr gwympo rhwng 0.5°c ac 1°c am bob 100m o gynnydd mewn uchder. Mae hyn yn un o nifer o ffactorau sy’n effeithio ar dymheredd wyneb ffyrdd.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, “Mae’r ffyrdd yng Ngheredigion yn creu amrywiol o amgylchiadau heriol i Dîm Priffyrdd y Cyngor. Gyda ffyrdd arfordirol a mewndirol; ffyrdd uchel ac isel, mae angen i’r ffordd rydym yn blaenoriaethu graeanu’r ffyrdd i adlewyrchu’r cymhlethdodau yma. Gyda’r newid yma i well adlewyrchu’r effaith o uchder ar ffyrdd yng Ngheredigion, dw i’n siŵr y bydd ein Tîm Priffyrdd unwaith eto yn cadw ein ffyrdd yn ddiogel yn y misoedd i ddod.”

Mae penderfyniad Cabinet yn galluogi’r Cyngor i ddatblygu ymhellach i gyrraedd dau o flaenoriaethu corfforaethol y Cyngor; sef hybu’r economi ac i ddarparu cydnerthedd amgylcheddol a chymunedol.

06/09/2018