Mae Colin Harding, adeiladwr cynlluniau rheilffyrdd model sy’n gweithio yng Ngheredigion, wedi derbyn dedfryd 6 mis o garchar wedi’i gohirio am 15 mis ar ôl pledio’n euog i dwyll a chyflenwi nwyddau trydanol anniogel.

Plediodd Colin Harding, a oedd hefyd yn masnachu dan yr enw ‘Model Railway Layouts’, yn euog i bedwar trosedd yn ymwneud â thwyll ac un trosedd yn ymwneud â diogelwch yn Llys yr Ynadon yn Aberystwyth. Dedfrydwyd ef hefyd i 120 awr o waith di-dâl.

Clywodd y Llys fod Harding, o Bontsian, Ceredigion, wedi cymryd dros £15,000 o daliadau gan gwsmeriaid y busnes yr oedd yn ei redeg o’i gartref. Cynigiodd wasanaeth i ddylunio ac adeiladu cynlluniau rheilffyrdd model, ond methodd â darparu unrhyw archebion i’r cwsmeriaid hynny yr oedd wedi eu twyllo. Yn yr achos prin pan lwyddodd i ddarparu cynllun i un o’r achwynwyr, clywodd y Llys fod trydanwr arbenigol wedi archwilio’r cynllun a roddwyd ac yr oedd yn ei ystyried mor anniogel y byddai perygl uchel o sioc drydanol i unrhyw un a fyddai’n ei ddefnyddio.

Rhoddodd Harding lu o esgusodion i’w gwsmeriaid dros beidio â chwblhau’r gwaith, gan gynnwys dyled a phroblemau personol eraill. Dywedodd ei gyfreithiwr wrth y llys fod Harding wedi gwario’r blaendaliadau ar gostau byw cyffredinol.

Wrth grynhoi, nododd y Barnwr Rhanbarth David Parsons fod y twyll parhaus, y swm arian oedd yn gysylltiedig, a’r esgusodion parhaus a roddwyd i’w gleientiaid yn golygu bod y troseddau mor ddifrifol bod yn rhaid rhoi dedfryd o garchar. Fodd bynnag, o ystyried diffyg collfarnau Harding yn y gorffennol, cafodd dedfryd chwe mis Harding ei gohirio am 15 mis, a gorchmynnwyd bod Harding yn cwblhau 120 awr o waith di-dâl. Gorchmynnwyd hefyd bod Harding yn talu iawndal o dros £4000 i’r achwynwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Ddiogelwch y Cyhoedd, “Mae angen i fasnachwyr anonest fod yn ymwybodol bod cyflawni troseddau o’r natur hon, a hynny dro ar ôl tro, yn debygol o ddenu cosbau llym. Mae tîm Diogelu’r Cyhoedd yng Ngheredigion yn gweithredu nid yn unig i ddiogelu defnyddwyr rhag masnachwyr anonest, ond hefyd i sicrhau bod defnyddwyr yn parhau i ymddiried mewn masnachwyr onest, fel sy’n wir am y mwyafrif o fasnachwyr yng nghymuned fusnes Ceredigion.

"Rwy'n annog unrhyw ddefnyddwyr sy'n credu eu bod yn cael eu twyllo gan fusnesau diegwyddor i roi gwybod am y mater i’r tîm Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 (llinell iaith Gymraeg) neu 03454 040506 (llinell iaith Saesneg). Mae'r tîm Diogelu'r Cyhoedd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth ac fe hysbysir yr awdurdod lleol perthnasol o unrhyw fater a gofnodir.”

23/07/2019