Gall siopau yng Ngheredigion ailagor o ddydd Llun, 22 Mehefin 2020, yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael eu hadolygu gan Weinidogion Cymru bob 21 diwrnod. Ar 19 Mehefin, cyhoeddodd Mark Drakeford fod busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn cael ailagor gan bwysleisio’r angen am ofal ac i gadw Cymru’n ddiogel.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol trwy gynnig cyngor ac arweiniad. Mae’r Cyngor yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i roi cynlluniau ar waith i sicrhau bod busnesau yn ailagor yn ddiogel.

Fel busnesau cyfrifol, mae’n siŵr y bydd nifer yn ystyried sut y byddant yn agor yn ddiogel ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Rydym yn annog busnesau i dreulio amser i ystyried rhoi cynlluniau ar waith er mwyn sicrhau bod eu proses o ailagor yn ddiogel ac wedi’i reoli. Yn ogystal â hyn, rydym yn eu hannog i ymgyfarwyddo â’r cyfyngiadau a amlinellir yn y Rheoliadau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ar y diwrnod cyntaf y byddant yn ailagor.

Bydd yn ofynnol i fusnesau yng Ngheredigion y caniateir iddynt ailagor i’r cyhoedd gydymffurfio â’r tri gofyniad sylfaenol hyn:

• Cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pellter o ddau fetr yn cael ei gynnal rhwng pob person ar safle’r busnes, ac ati (mae hyn yn cynnwys staff a chwsmeriaid);
• Cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod nifer y bobl a ganiateir ar safle’r busnes yn ddigon bach i allu cynnal pellter o ddau fetr;
• Cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pellter o ddau fetr yn cael ei gynnal rhwng pob person sy’n aros i gael mynediad i safle’r busnes.

Gan fod y sefyllfa'n datblygu'n gyflym, mae'n hanfodol fod busnesau yng Ngheredigion yn paratoi'n ddigonol i ymateb i'r heriau hyn. Mae'n hanfodol eu bod yn cynllunio er mwyn i’r staff ddychwelyd yn ddiogel i’r gwaith ac i aelodau’r cyhoedd ddefnyddio eu busnes mewn modd diogel. Mae gwybodaeth a chyngor perthnasol ar gael gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Rheoleiddio eraill er mwyn cefnogi busnesau mewn perthynas â chydymffurfiaeth.

Os bydd arnoch angen cyngor busnes yn sgil y Coronafeirws, a hynny ynghylch y rheolau cadw pellter cymdeithasol a sut y maent yn berthnasol i fusnes, mae cyngor ac arweiniad llawn ar gael ar dudalen Cefnogi Economi Ceredigion. a gan Wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor.

19/06/2020