Mae Amgueddfa Ceredigion yn dathlu penblwydd y darlunydd gwobrwyol o Geredigion, Margaret Jones, yn 100 mlwydd oed gydag arddangosfa unigryw.

Mae’r arddangosfa Margaret Jones: Dathlu’r 100, sy’n amlygu gyrfa’r darlunydd Margaret Jones ar noswyl ei phen-blwydd yn 100 oed, yn cynnwys brasluniau cynnar a darluniau nas gwelwyd o’r blaen sy’n eiddo i’r teulu Jones. Mae’r arddangosfa unigryw hon yn agor y drws i gelf yr artist enwog, gan wahodd ymwelwyr i ddarganfod syniadau, brasluniau a gweithrediad mewnol ei darluniau a’i gwaith celf enwog.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys printiau gwreiddiol nas gwelwyd o’r blaen o’r gyfres ‘Arthur’ a phrintiau prin o waith nas cyhoeddwyd, gan gynnwys ‘Seven days of the week’ sy’n bwrw golwg ar sut mae enwau dyddiau’r wythnos yn tarddu o sagâu’r brenhinoedd a’r breninesau Nordig. Bydd albymau lluniau archif hefyd yn cael eu harddangos ynghyd â llyfrau nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi, gan roi cipolwg nas gwelwyd o’r blaen ar fywyd preifat yr artist.

Dywedodd Alice Briggs, Curadur Cynorthwyol Amgueddfa Ceredigion, “Pleser oedd cael y cyfle i chwilio trwy bortffolio Margaret Jones, darganfod ei phroses o greu ei darluniau a dysgu mwy am ei gwybodaeth fanwl am y traddodiad storïol y mae hi wedi darlunio ar ei gyfer.”

Ers dod yn arlunydd proffesiynol yn 60 mlwydd oed, daeth Margaret yn adnabyddus fel un o’r darlunwyr blaenllaw yn y traddodiad Celtaidd a llên gwerin eraill. Fe’i ganwyd yn Lloegr, a magodd ei theulu ifanc yn India gyda’i gŵr cyn iddo gael ei benodi’n ddarlithydd mewn Astudiaethau Addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae ei phortread o’r Mabinogi wedi diffinio’r modd y mae cenhedlaeth o blant Cymru yn dychmygu llên gwerin hynafol y genedl.

Bydd yr Athro Sioned Davies, cyn Bennaeth yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, y mae ei chyfraniad parhaus at yr iaith Gymraeg a’i diwylliant yn hynod ddylanwadol, yn agor yr arddangosfa ar 27 Hydref am 2yp. Mae croeso i ymwelwyr yr amgueddfa ddod i’r agoriad swyddogol.

Cynhelir yr arddangosfa, sy’n rhad ac am ddim, yn Galeri Amgueddfa Ceredigion o ddydd Sadwrn 27 Hydref 2018 tan 5 Ionawr 2019.

16/10/2018